Yn y canllawiau hyn, rydym yn edrych ar sut y gall gwarchodwyr plant yng Nghymru weithio ochr yn ochr â’i gilydd o’r un eiddo, ac rydym hefyd yn darparu atebion i Gwestiynau Cyffredin ar y pwnc. Mae Coram PACEY Cymru wedi gweithio’n agos gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru ar gynnwys y canllawiau hyn.
A all gwarchodwyr plant weithio ochr yn ochr â'i gilydd o'r un eiddo preswyl?
Gallant. Fodd bynnag, rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru’n unigol fel gwarchodwyr plant. Rhaid i bob gwarchodwr plant fod â’i gofrestriad ei hun gydag AGC a bydd ganddo endid cyfreithiol ar wahân. Bydd eu tystysgrif cofrestru yn nodi ym mha eiddo preswyl y maent wedi’u cofrestru i ddarparu’r gofal.
Cofrestru
Beth yw'r broses gofrestru ar gyfer gwarchodwyr plant sy'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd o'r un eiddo preswyl?
Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno ei gais ei hun i gofrestru fel gwarchodwr plant unigol. Byddant yn nodi ar y cais a ydynt yn dymuno gweithio ochr yn ochr â gwarchodwr plant arall. Os caiff ei gymeradwyo, bydd amod ychwanegol yn cael ei gynnwys ar y dystysgrif cofrestru sy’n eu galluogi i weithio ochr yn ochr â gwarchodwr plant arall. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at ganllawiau cofrestru AGC, sydd ar gael ar wefan AGC.
Sut mae'r lle sydd ei angen ar gyfer gofal plant yn effeithio ar ofalwyr plant sy'n gweithio ochr yn ochr yn yr un eiddo preswyl?
Mae’r lle chwarae dan do yn darparu o leiaf yr isafswm gofod canlynol fesul plentyn:
o dan 2 oed – 3.5 metr sgwâr.
2 i 7 oed – 2.5 metr sgwâr.
8 i 12 oed – 2.3 metr sgwâr. 22.2(cm)
Wrth gyfrifo’r gofyniad lle ar gyfer pob grŵp oedran, gellir dynodi nifer o ystafelloedd (sydd wedi’u haseinio’n benodol ar gyfer cyfleoedd chwarae a dysgu) yn yr eiddo preswyl i’w defnyddio (ac eithrio toiledau).
Sut mae'r gofynion o ran cymarebau ar gyfer gwarchodwyr plant yn effeithio ar warchodwyr plant sy'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd o'r un eiddo preswyl?
Pan fydd gwarchodwr plant yn gweithio ochr yn ochr â gwarchodwr plant arall, mae’r un cymarebau oedolion-i-blant yn berthnasol i’r ddau warchodwr plant, ar gyfer unrhyw blant ychwanegol o dan 12 oed. Gall y lle sydd ar gael i blant yn yr eiddo preswyl, fodd bynnag, hefyd effeithio ar y niferoedd y gellir cofrestru darpariaeth ar eu cyfer.
Os yw gwarchodwr plant yn dymuno gweithio ochr yn ochr â gwarchodwr plant arall ac yn dymuno gwneud cais i warchod mwy na 10 o blant gyda’i gilydd yn yr un eiddo preswyl, bydd angen tystiolaeth o ymgynghori â’r Adran Gynllunio fel rhan o’r cais. Bydd AGC wedyn yn asesu’r cais cyn gwneud argymhellion i bennu a chymeradwyo’r union nifer ar sail unigol.
Cyfrifir hyn yn seiliedig ar y gofyniad lle ar gyfer pob grŵp oedran; gellir dynodi nifer o ystafelloedd yn yr eiddo preswyl (sydd wedi’u haseinio’n benodol ar gyfer cyfleoedd chwarae a dysgu) i’w defnyddio (ac eithrio toiledau)..
Cynllunio lleol
Os yw gwarchodwyr plant yn gweithio gyda'i gilydd o'r un eiddo preswyl, a oes angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol?
Er bod gan awdurdodau cynllunio ac AGC rôl i’w chwarae wrth gymeradwyo darpariaeth gofal plant newydd, mae’r prosesau hyn yn gweithredu’n annibynnol. Y darparwr gofal plant sydd â’r cyfrifoldeb am gydymffurfio â deddfwriaeth gynllunio. Os yw unigolyn yn dymuno gweithio fel gwarchodwr plant neu ehangu darpariaeth bresennol, efallai y byddai’n dda iddo geisio cyngor gan yr awdurdod cynllunio ynghylch ei fwriadau. Nid oes angen i AGC gael tystiolaeth o gytundeb cynllunio lleol (ac eithrio yn y categori uchod, lle gwneir cais i gofrestru mwy na 10 o blant sy’n cael eu gofalu amdanynt yn yr eiddo preswyl ar unrhyw un adeg).
Gweler ein stori newydd am bolisi cynllunio a gofal plant yng Nghymru i gael rhagor o wybodaeth.
Rheoleiddio
Os yw gwarchodwyr plant yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd o’r un eiddo preswyl, a oes angen i bob un ohonynt sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion yn y Rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS)?
Rhaid i bob gwarchodwr plant unigol sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd 2010 a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
A oes rhaid i bob Datganiad o Ddiben fod yn unigol a nodi sut mae gwarchodwyr plant yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd o'r un eiddo preswyl?
Mae angen bod gan bob gwarchodwr plant unigol ei Ddatganiad o Ddiben ei hun. Mae angen i hyn adlewyrchu’n glir sut mae eu busnes yn gweithredu. Rhaid i warchodwyr plant sy’n gweithio ochr yn ochr â’i gilydd sicrhau bod pob Datganiad o Ddiben yn darparu gwybodaeth glir ynghylch sut maent yn rhedeg eu busnesau ac ynghylch eu rolau a’u cyfrifoldebau wrth weithio ochr yn ochr â’i gilydd.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith bod gan bob darparwr gofal plant cofrestredig y Datganiad o Ddiben hwn. Rhaid i’r Datganiad o Ddiben gynnwys yr holl wybodaeth o dan Reoliad 15 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 ynghylch y nodau a’r amcanion a materion perthnasol eraill sy’n ymwneud â’r gwasanaeth i’w ddarparu ar gyfer plant sydd yng ngofal y person cofrestredig.
A oes angen i bob gwarchodwr plant gael polisïau a gweithdrefnau ar wahân ac unigryw?
Rhaid i bob gwarchodwr plant fod â’i bolisïau a’i weithdrefnau ei hun ar waith. Pan fydd y ddau ofalwr plant yn gweithio ochr yn ochr yn yr un eiddo preswyl, gallant ddefnyddio’r un cynnwys polisi er mwyn sicrhau cysondeb. Fodd bynnag, dylai pob gwarchodwr plant unigol fod yn gwbl atebol am eu polisïau eu hunain, a rhaid iddynt sicrhau eu bod yn eu hadolygu’n rheolaidd ac yn sicrhau eu bod bob amser yn cydymffurfio â rheoliadau, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’u harferion cyfredol eu hunain.
Arolwg
Beth yw'r broses arolygu ar gyfer gwarchodwyr plant sy'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd o'r un eiddo preswyl?
Mae pob gwarchodwr plant wedi’i gofrestru’n unigol, ac felly bydd AGC yn archwilio pob gwarchodwr plant unigol, ni waeth a ydynt yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd.
A oes gan warchodwyr plant sy'n gweithio ochr yn ochr o'r un eiddo preswyl adroddiadau arolygu unigol?
Oes, gan fod pob gwarchodwr plant wedi’i gofrestru’n unigol ac yn endid cyfreithiol ar wahân, maent yn cael eu harchwilio’n unigol ac, o ganlyniad, yn cael adroddiadau archwilio unigol. Mae AGC yn penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o archwilio pob gwarchodwr plant gan ddefnyddio data a gwybodaeth sydd ar eu systemau.
Contractau ac yswiriant
A all contract gwarchod plant fod yn enw mwy nag un gwarchodwr plant?
Mae contract rhieni ar gyfer gofal eu plentyn yn bodoli rhyngddyn nhw a’r gwarchodwr plant a gomisiynwyd i ddarparu gofal ar gyfer eu plentyn, yn unol â gofynion y Rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Mae’r contract yn darparu eglurder ynghylch pwy sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am ofal y plentyn a materion hollbwysig eraill, megis telerau talu am y gwasanaeth a’r gweithdrefnau perthnasol sy’n ymwneud â diogelu a chyflwyno cwynion, ac ati. Gall telerau’r contract hefyd fod yn berthnasol wrth bennu pwy yw’r darparwr y dylid cychwyn camau gorfodi yn ei erbyn oherwydd diffygion rheoleiddiol.
Dylai’r contractau nodi’r disgwyliadau a’r trefniadau ar gyfer darparu gofal gan bob gwarchodwr plant, a dylid cynnwys hyn hefyd yn y Cynllun Gweithredol ar gyfer pob gwasanaeth cofrestredig. Mae hyn oherwydd, hyd yn oed pan fydd dau warchodwr plant sydd wedi’u cofrestru’n annibynnol yn gweithio ochr yn ochr neu’n gweithredu o’r un eiddo preswyl, mae eu cyfrifoldebau contractiol a rheoleiddiol yn parhau i fod ar wahân. Mae pob gwarchodwr plant yn parhau i fod yn unigol atebol am y gofal y maent yn ei ddarparu, gan gynnwys cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol a chynnal eu darpariaeth yswiriant eu hunain.
Pan fydd gwarchodwyr plant yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd, mae’n bwysig sicrhau bod y contractau ysgrifenedig yn nodi’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer darparu gofal ym mhob amgylchiad. Mae’r cynllun gweithredol, y gweithdrefnau argyfwng a’r Datganiad o Ddiben hefyd yn ddogfennau amhrisiadwy i sicrhau eglurder a dealltwriaeth gyffredin i bawb.
Yn y pen draw, mater i bob gwarchodwr plant unigol yw penderfynu sut maent yn llunio eu contractau, ond rhaid iddynt adlewyrchu’r hyn a nodir uchod.
A oes angen bod gan bob gwarchodwr plant ei Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (PLI) ei hun?
Oes, rhaid i bob gwarchodwr plant sicrhau bod ganddo ei yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ei hun ar gyfer ei wasanaeth cofrestredig ei hun.
A oes angen bod gan warchodwyr plant sy'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr (ELI)?
Mae gwarchodwyr plant sy’n gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn hunangyflogedig, ac felly nid ydynt yn cael eu cyflogi gan ei gilydd; felly, nid oes angen ELI.
Fodd bynnag, os yw gwarchodwr plant yn cyflogi cynorthwyydd (neu gynorthwywyr), rhaid iddo fod ag Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr (ELI). Os oes cynorthwywyr yn gweithio yn y lleoliad, byddai angen i’r gwarchodwr plant sy’n cyflogi’r cynorthwywyr sicrhau bod ganddynt Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr. Byddai angen i’r gwarchodwr plant sy’n eu cyflogi fod yn glir ynghylch unrhyw gytundeb cyflogaeth.
Hyfforddiant
A oes angen bod pob gwarchodwr plant wedi cwblhau hyfforddiant perthnasol, gan gynnwys gofal plant yn y cartref, cymorth cyntaf a diogelu?
Mae angen i bob gwarchodwr plant sicrhau eu bod yn cwblhau hyfforddiant perthnasol ar adegau priodol er mwyn bodloni’r holl ofynion rheoleiddiol a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Rhaid i’w cofnodion hyfforddi fod yn gyfredol bob amser.
Asesiad risg
A oes angen i bob gwarchodwr plant yn yr eiddo preswyl gynnal asesiadau risg ar wahân?
Rhaid i bob gwarchodwr plant sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel. Mae angen iddynt asesu’r amgylchedd yn unigol a bod yn atebol. Eu cyfrifoldeb nhw eu hunain yw’r ffordd y maent yn cynnal ac yn cofnodi asesiad risg, ond mae angen iddo fod yn effeithiol ac mae angen i bob gwarchodwr plant fod yn gwbl atebol am eu hasesiadau risg eu hunain.
A all gwarchodwyr plant sy'n gweithio o'r un eiddo preswyl rannu rhai cyfrifoldebau, er enghraifft, mynd â phlant i'r ysgol a'u casglu?
Mae angen i bob gwarchodwr plant sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n unigol â’r rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Rhaid i bob gwarchodwr plant sicrhau bod eu harfer yn cael ei adlewyrchu’n glir yn eu contract â rhieni, eu polisïau a’u gweithdrefnau, eu cynllun gweithredol a’u Datganiad o Ddiben, gan nodi’n glir y trefniadau sydd ar waith ar gyfer gofal dros dro neu achlysurol a ddarperir gan berson cofrestredig arall ar ran gwarchodwr plant arall sy’n gweithio o’r un eiddo preswyl. Mae cyfathrebu clir â rhieni ynghylch y ffordd y maent yn gweithredu yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol. Mae angen i bob gwarchodwr plant sicrhau bod y plant y maent yn eu gwarchod yn cael eu diogelu.
Rhaid i warchodwyr plant gydymffurfio ag amodau cofrestru. Mae’r amodau hyn wedi’u nodi’n glir yn eu tystysgrif cofrestru. Mae’r dystysgrif yn nodi faint o blant y gallant eu gwarchod ar unrhyw un adeg.
Os yw un o'r gwarchodwyr plant yn sâl, a all gwarchodwr plant arall yn yr eiddo preswyl ofalu am blant ychwanegol sy'n cael eu gwarchod?
Mae angen i bob gwarchodwr plant sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n unigol â’r rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Rhaid i bob gwarchodwr plant sicrhau bod eu harfer yn cael ei adlewyrchu’n glir yn eu contract â rhieni, eu polisïau a’u gweithdrefnau, eu cynllun gweithredol a’u Datganiad o Ddiben, gan nodi’n glir y trefniadau sydd ar waith ar gyfer gofal dros dro neu achlysurol a ddarperir gan berson cofrestredig arall ar ran gwarchodwr plant arall sy’n gweithio o’r un eiddo preswyl. Mae cyfathrebu clir â rhieni ynghylch y ffordd y maent yn gweithredu yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol. Mae angen i bob gwarchodwr plant sicrhau bod y plant y maent yn eu gwarchod yn cael eu diogelu ac yn ddiogel.
Rhaid i warchodwyr plant gydymffurfio ag amodau cofrestru. Mae’r amodau hyn wedi’u nodi’n glir yn eu tystysgrif cofrestru. Mae’r dystysgrif yn nodi faint o blant y gallant eu gwarchod ar unrhyw un adeg.
Os yw un o'r gwarchodwyr plant ar hyfforddiant neu i ffwrdd o'r gwasanaeth, a all gwarchodwr plant arall yn yr eiddo preswyl ddarparu gofal ar gyfer plant ychwanegol sy'n cael eu gwarchod?
Mae angen i bob gwarchodwr plant sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n unigol â’r rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Rhaid i bob gwarchodwr plant sicrhau bod eu harfer yn cael ei adlewyrchu’n glir yn eu contract â rhieni, eu polisïau a’u gweithdrefnau, eu cynllun gweithredol a’u Datganiad o Ddiben, gan nodi’n glir y trefniadau sydd ar waith ar gyfer gofal dros dro neu achlysurol a ddarperir gan berson cofrestredig arall ar ran gwarchodwr plant arall sy’n gweithio o’r un eiddo preswyl. Mae cyfathrebu clir â rhieni ynghylch y ffordd y maent yn gweithredu yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol. Mae angen i bob gwarchodwr plant sicrhau bod y plant y maent yn eu gwarchod yn cael eu diogelu.
Rhaid i warchodwyr plant gydymffurfio ag amodau cofrestru. Mae’r amodau hyn wedi’u nodi’n glir yn eu tystysgrif cofrestru. Mae’r dystysgrif yn nodi faint o blant y gallant eu gwarchod ar unrhyw un adeg.
Os yw un o'r gwarchodwyr plant ar wyliau, a all gwarchodwr plant arall sydd wedi'i gofrestru yn yr un eiddo preswyl ofalu am blant ychwanegol?
Mae angen i bob gwarchodwr plant sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n unigol â’r rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Rhaid i bob gwarchodwr plant sicrhau bod eu harfer yn cael ei adlewyrchu’n glir yn eu contract â rhieni, eu polisïau a’u gweithdrefnau, eu cynllun gweithredol a’u Datganiad o Ddiben, gan nodi’n glir y trefniadau sydd ar waith ar gyfer gofal dros dro neu achlysurol a ddarperir gan berson cofrestredig arall ar ran gwarchodwr plant arall sy’n gweithio o’r un eiddo preswyl. Mae cyfathrebu clir â rhieni ynghylch y ffordd y maent yn gweithredu yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol. Mae angen i bob gwarchodwr plant sicrhau bod y plant y maent yn eu gwarchod yn cael eu diogelu ac yn ddiogel.
Rhaid i warchodwyr plant gydymffurfio ag amodau cofrestru. Mae’r amodau hyn wedi’u nodi’n glir yn eu tystysgrif cofrestru. Mae’r dystysgrif yn nodi faint o blant y gallant eu gwarchod ar unrhyw un adeg.
Os oes argyfwng, a ellir gadael unrhyw un o'r gwarchodwyr plant gyda'r plant nes iddynt gael eu casglu gan riant?
Rhaid i warchodwyr plant fod â gweithdrefn argyfwng gadarn ar waith a’i hadolygu’n rheolaidd. Rhaid iddynt sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel yn ystod argyfyngau. Dylai gwarchodwyr plant hysbysu rhieni am eu gweithdrefnau ar gyfer argyfyngau. Rhaid iddynt gydymffurfio ag amodau cofrestru. Mae’r amodau hyn wedi’u nodi’n glir yn eu tystysgrif cofrestru. Rhaid i warchodwyr plant sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol bob amser.
Pe bai pryder yn cael ei godi ynghylch un gwarchodwr plant sy'n gweithio yn yr eiddo preswyl, sut y byddai hyn yn effeithio ar warchodwyr plant eraill sy'n gweithio o'r un cyfeiriad?
Byddai hyn yn dibynnu ar natur y pryder ac yn ystyried unrhyw amodau cofrestru penodol. Byddai cyfranogiad pob gwarchodwr plant yn cael ei ystyried, ac ar sail yr holl wybodaeth sydd ar gael, byddai AGC yn penderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol.
Pe bai un o'r gwarchodwyr plant yn yr eiddo preswyl yn cael ei atal dros dro yn dilyn pryderon, sut effeithiau fyddai hynny'n eu cael ar warchodwyr plant eraill sy'n gweithio o'r un cyfeiriad?
Diogelwch a lles plant yw prif flaenoriaeth AGC. Pe bai un o’r gwarchodwyr plant sydd wedi’u cofrestru yn yr eiddo yn cael eu hatal dros dro, byddai AGC yn ystyried a oedd yr amgylchiadau’n effeithio ar unrhyw warchodwyr plant eraill sy’n gweithio yn yr eiddo, neu’n peri risgiau i blant sy’n cael eu gofalu amdanynt. Byddai unrhyw benderfyniad ynghylch gwarchodwyr plant sy’n weddill yn cael ei wneud ar sail y wybodaeth sydd ar gael, a byddai pob sefyllfa’n cael ei hasesu’n annibynnol.
A all gwarchodwyr plant weithio gyda'i gilydd o'r un eiddo preswyl os ydynt wedi'u cofrestru mewn cyfeiriadau ar wahân?
Na allant. Rhaid i warchodwyr plant gydymffurfio ag amodau cofrestru, a dim ond o’r cyfeiriad a nodir ar eu tystysgrif y gallant ddarparu gofal. Ni all gwarchodwyr plant warchod plant o eiddo masnachol, fel neuadd bentref. Fodd bynnag, gall gwarchodwyr plant fynd â’r plant sydd yn eu gofal i gyfleusterau yn y gymuned neu drefnu teithiau ar gyfer y plant hynny.
Cyllid ac ariannu
A all gwarchodwr plant ddarparu gofal i blentyn un o'r gwarchodwyr plant eraill ar yr eiddo preswyl?
Gallant, fodd bynnag, mae pob gwarchodwr plant yn parhau i fod yn unigol gyfrifol am y gofal y maent yn ei ddarparu. Rhaid i warchodwyr plant gydymffurfio ag amodau cofrestru. Mae’r amodau hyn wedi’u nodi’n glir yn eu tystysgrif cofrestru, gan gynnwys y nifer uchaf o blant y caniateir iddynt ofalu amdanynt ar unrhyw adeg. Byddai angen i’r gwarchodwr plant ddilyn yr holl ofynion rheoleiddiol, gan gynnwys contractau sy’n nodi’n glir pwy sy’n gyfrifol am ofal y plentyn ar unrhyw adeg benodol.
Mae cael cytundebau ysgrifenedig clir yn helpu i sicrhau atebolrwydd, yn osgoi dryswch ynghylch cyfrifoldebau ac yn cefnogi trefniadau diogelu.
Os felly, a all y gwarchodwr plant sy'n darparu gofal plant gael mynediad at gyllid gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac at Addysg Meithrin i helpu gyda'r costau?
O bosib, gallant, ar yr amod bod gofynion y cynllun cyllido perthnasol yn cael eu bodloni.
Nid oes rheol gyfreithiol benodol sy’n atal gwarchodwr plant cofrestredig rhag derbyn cyllid gofal plant yn unig oherwydd bod rhiant y plentyn hefyd yn warchodwr plant cofrestredig.
Bydd cymhwysedd yn dibynnu ar reolau’r cynllun cyllido penodol, ynghyd ag amgylchiadau’r achos unigol.
Mae’r trefniadau ymarferol yn bwysig. Er enghraifft, os yw plentyn yn derbyn gofal plant a ariennir, dylai fod tystiolaeth glir bod y gwarchodwr plant cofrestredig sy’n hawlio’r cyllid yn gyfrifol am ddarparu’r gofal hwnnw yn ystod yr oriau a ariennir.
Dylai gwarchodwyr plant ystyried y manylion mân yn ofalus a sicrhau bod eu contractau, eu cofnodion a’u datganiadau o ddiben yn adlewyrchu’n gywir sut y darperir gofal.
Byddai angen i’r ddau warchodwr plant nodi’n glir sut y byddent yn cydweithio yn ymarferol o’r un eiddo – er enghraifft, sut y byddent yn osgoi sefyllfaoedd lle byddai gwarchodwr plant yn gofalu am ei blentyn ei hun, a sut y byddent yn sicrhau nad ydynt yn gweithredu y tu allan i amodau eu cofrestriad.
Yn ogystal, nid yw’r ffaith bod y plentyn yn byw yn yr eiddo fel arfer yn golygu, ynddi’i hun, na all gwarchodwr plant cofrestredig arall sy’n gweithio o’r eiddo hwnnw ddarparu’r gofal plant. Fodd bynnag, byddai angen i’r ddau ofalwr plant sicrhau bod y trefniant yn gweithredu o fewn amodau eu cofrestriadau priodol ac yn cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddiol perthnasol a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
A oes rhaid i bob gwarchodwr plant gyflwyno ffurflen dreth ar wahân i CThEF?
Mae gwarchodwyr plant wedi’u cofrestru fel unigolion ar eu liwt eu hunain, gydag endidau cyfreithiol ar wahân. Felly, maent yn gweithredu fel busnes unigol a bydd angen iddynt gyflwyno eu datganiadau treth eu hunain.
A all gwarchodwyr plant sy'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd sefydlu cwmni cyfyngedig?
Yn gyfreithiol, bydd cofrestriad gwarchodwr plant bob amser yn enw’r gwarchodwr plant ei hun. Natur y gweithgaredd yw ei fod yn wasanaeth personol a ddarperir ar eiddo preswyl, fel arfer yn nhŷ’r gwarchodwr plant ei hun. Nid yw’r rheoliadau sy’n berthnasol i ofal plant yn gwneud unrhyw ddarpariaeth i gwmnïau gofrestru, yn wahanol i ofal dydd.
Gallai gwarchodwr plant, neu warchodwyr plant sy’n gweithio ochr yn ochr â’i gilydd, drefnu eu materion ariannol o dan enw cwmni, fel y gall rhieni wneud taliadau i’r cyfrif hwnnw. Mae hyn at ddibenion rheoli’r cyllid yn unig.
Os yw gwarchodwr plant, neu warchodwyr plant sy’n gweithio ochr yn ochr â’i gilydd, yn defnyddio enw masnachu neu enw cwmni yn eu datganiad o ddiben, ni fydd hyn yn achosi problem i AGC. Bydd cofrestriad gwarchodwr plant bob amser yn cael ei gadw yn enw’r gwarchodwr plant, ac nid yw’r ffaith bod gwarchodwr plant yn trefnu ei gyllid drwy gwmni yn newid yr angen i’r cofrestriad fod yn enw’r unigolyn ei hun.
Beth yw manteision gwarchodwyr plant yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd?
1. Parhad gofal i blant a grwpiau o frodyr a chwiorydd
Gall gweithio ochr yn ochr â gwarchodwr plant arall helpu i gefnogi parhad gofal i blant a theuluoedd, gan gynnwys grwpiau o frodyr a chwiorydd a allai elwa ar gael eu gofalu amdanynt yn yr un amgylchedd cyfarwydd. Gall hyn helpu i gynnal arferion a pherthnasoedd sefydledig yn ogystal ag ymdeimlad o ddiogelwch, ar yr amod bod trefniadau wedi’u cytuno’n glir gyda rhieni a’u bod yn cael eu hadlewyrchu mewn contractau, polisïau, y Datganiad o Ddiben a chynlluniau gweithredol.
2. Cyfleoedd gwell ar gyfer chwarae a dysgu
Gall plant elwa ar ystod ehangach o weithgareddau, adnoddau a phrofiadau pan fydd gwarchodwyr plant yn cynllunio gyda’i gilydd ac yn rhannu syniadau, a gallant elwa ar fwy o gyfleoedd i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd gyda grŵp ychydig yn ehangach o blant mewn amgylchedd cartref cyfarwydd.
3. Mwy o hyblygrwydd i deuluoedd
Lle mae trefniadau wedi’u nodi’n glir mewn contractau, polisïau, Datganiadau Diben a chynlluniau gweithredol, gall gweithio ochr yn ochr â gwarchodwr plant arall helpu i gefnogi parhad a hyblygrwydd i blant a theuluoedd.
4. Gwybodaeth a phrofiad a rennir
Gall gwarchodwyr plant ddysgu o sgiliau, profiad a dulliau ei gilydd, gan gefnogi arfer myfyriol a gwelliant parhaus.
5. Cymorth gan gymheiriaid a llai o unigedd
Gall gweithio ochr yn ochr â gwarchodwr plant arall ddarparu cymorth proffesiynol rheolaidd, sicrwydd a chyfleoedd i rannu syniadau, a all helpu i leihau’r unigedd a brofir weithiau wrth weithio ar ben eich hun.
6. Cefnogaeth ar y cyd gyda threfniadau a gweithgareddau
Gall gwarchodwyr plant gefnogi ei gilydd wrth gynllunio gwibdeithiau, trefnu gweithgareddau a rheoli trefniadau dyddiol, tra’n parhau i fod yn gyfrifol yn unigol am y plant sydd yn eu gofal.
7. Datblygiad proffesiynol
Gall gweithio ochr yn ochr â gwarchodwr plant arall annog trafodaeth, myfyrio a datrys problemau ar y cyd, gan helpu’r ddau warchodwr plant i feithrin hyder a gwella eu harferion.
8. Adnoddau a chostau a rennir
Gallai gwarchodwyr plant rannu rhai adnoddau, offer, cyfleoedd hyfforddi neu gostau sy’n ymwneud â’r busnes, tra’n sicrhau bod pob un yn parhau i fod yn gyfrifol am eu gwasanaeth cofrestredig eu hunain.
9. Gwydnwch busnes cryfach
Gall gwarchodwyr plant deimlo’n fwy hyderus ac yn fwy cynaliadwy yn eu harferion pan fydd ganddynt gydweithiwr y gallant ymddiried ynddo i drafod syniadau, heriau a ffyrdd o wella eu gwasanaeth.
Gobeithiwn ein bod wedi ateb eich ymholiadau drwy’r Cwestiynau Cyffredin hyn, fodd bynnag, os hoffech drafod ymhellach, cysylltwch â ni::
E-bost: cymru@corampacey.org.uk
Ffôn: 02920 351407
