Every local authority in Wales has a legal obligation to ensure there is sufficient childcare available for families in their area, the right amount, in the right places, for the right ages. This check is called a Childcare Sufficiency Assessment (CSA).
Use the links below to find out more about what a CSA is, why it matters, and how you can find out about the CSA for your area. You can also find out how childcare providers and local authorities can work with Coram PACEY Cymru through this process.
What is a Childcare Sufficiency Assessment?
A Childcare Sufficiency Assessment (CSA) is a statutory duty on every local authority in Wales, under the Childcare Act 2006.
Local authorities must assess the sufficiency of childcare in their area at least every five years, and keep that assessment under review through annual progress reports and, where necessary, action plans.
A CSA looks at supply and demand for childcare locally, including Welsh-medium childcare, provision for children with additional learning needs or disabilities, geographical gaps, and workforce sustainability.
Where a local authority identifies gaps, it must publish an Action Plan alongside the CSA, setting out how it will address them.
Local authorities are also required to publish their draft CSA for a 28-day public consultation before submitting the final version to Welsh Government, giving parents, providers and other stakeholders a chance to comment.
Why Childcare Sufficiency Assessments matter to childcare providers
The CSA process is one of the main ways providers’ voices can reach local and national decision-makers, and help to inform childcare planning.
Engaging with your local authority’s CSA helps in several ways:
Your voices matter
- Making sure all childcare providers, including childminders, are included in local authority consultation and stakeholder engagement.
A seat at the table
- Helping to ensure all childcare providers, including childminders are properly considered in decisions about how funded childcare places and grants are allocated locally.
- Ensuring childminding provision is counted and described accurately, not overlooked.
The big picture
- Making sure new funded places or wraparound schemes don’t undercut or duplicate existing childcare capacity in your area.
Raising the profile of childminding
- Using the CSA’s public findings and action plans to demonstrate childminders’ role and value to the wider childcare market.
Why Childcare Sufficiency Assessments matter to local authorities
Meeting the legal duty
Local authorities in Wales have a legal duty to make sure, so far as is reasonably practicable, that there is enough childcare for parents and carers in their area who need it.
Carrying out CSAs is also a legal requirement for local authorities, providing them with an evidence-based picture and understanding of the childcare that families in their area need, what is available, where there are any gaps.
Planning with evidence
Where a CSA finds gaps in provision, the local authority develops an action plan based on local data.
Supporting wider Welsh priorities
CSA findings inform other local planning, including funded childcare expansion, Welsh-medium education and provision for children with additional learning needs.
Hearing from families and providers
Consultation is part of the process, so that local authorities can hear directly from parents and carers, childcare providers, umbrella organisations (including Coram PACEY Cymru) and communities.
The legislation and statutory guidance behind CSAs are being updated and are subject to changes, so please check the most up to date requirements in the links below.
How Coram PACEY Cymru can help
Local authorities can draw on Coram PACEY Cymru’s national and local expertise to help meet their CSA duties, including:
- Evidence: National survey data and sector insight to inform demand and supply analysis.
- Engagement: Direct routes to childminders for consultation and focus groups.
- Ongoing support: Services such as Coram PACEY Connect, which helps local authorities work with childcare and early years professionals in their area
- Wider support: The full range of support in our Core Offer for local authorities
Find your local authority’s Childcare Sufficiency Assessment
Each of the 22 local authorities in Wales runs their own CSA and have their own timetable, all working towards the current national deadline of 30 June 2027. Use the table below to find links to your local authority’s CSA information and any available consultation details and activities.
Further information
Childcare Statutory Guidance for Local Authorities (Welsh Government, June 2026)
Review of the Childcare Sufficiency Assessment (CSA) Duty on Local Authorities
If you have any queries, please contact us:
Email: cymru@corampacey.org.uk
Phone: 02920 351407
Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod digon o ddarpariaeth gofal plant ar gael i deuluoedd yn eu hardal – y lefel gywir o ddarpariaeth, yn y lleoedd cywir ac ar gyfer yr oedrannau cywir. Gelwir yr asesiad hwn yn Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP).
Defnyddiwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am ADGP, pam ei fod yn bwysig, a sut y gallwch gael gwybod am yr ADGP ar gyfer eich ardal. Gallwch hefyd ddarganfod sut y gall darparwyr gofal plant ac awdurdodau lleol weithio gyda Coram PACEY Cymru drwy’r broses hon.
Beth yw Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant?
Mae Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru, o dan Ddeddf Gofal Plant 2006.
Rhaid i awdurdodau lleol asesu digonolrwydd gofal plant yn eu hardal o leiaf bob pum mlynedd, a chadw’r asesiad hwnnw dan adolygiad drwy adroddiadau cynnydd blynyddol ac, lle bo angen, cynlluniau gweithredu.
Mae ADGP yn ystyried y cyflenwad a’r alw am ofal plant yn lleol, gan gynnwys gofal plant cyfrwng Cymraeg, darpariaeth ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau, bylchau daearyddol, a chynaliadwyedd y gweithlu.
Pan fydd awdurdod lleol yn nodi bylchau, rhaid iddo gyhoeddi Cynllun Gweithredu ochr yn ochr â’r ADGP, gan nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â nhw.
Mae’n ofynnol hefyd i awdurdodau lleol gyhoeddi eu drafft o’r ADGP ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus 28 diwrnod cyn cyflwyno’r fersiwn derfynol i Lywodraeth Cymru, gan roi cyfle i rieni, darparwyr a rhanddeiliaid eraill wneud sylwadau.
Pam mae Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yn bwysig i ddarparwyr gofal plant
Mae’r broses ADGP yn un o’r prif ffyrdd o sicrhau bod lleisiau darparwyr yn cyrraedd penderfynwyr ar lefel leol a chenedlaethol, ac yn helpu i lywio’r gwaith o gynllunio gofal plant.
Mae ymgysylltu ag ADGP eich awdurdod lleol yn helpu mewn sawl ffordd:
Mae eich lleisiau’n bwysig
- Sicrhau bod pob darparwr gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, yn cael ei gynnwys yn ymgynghoriadau awdurdodau lleol ac mewn gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Sedd wrth y bwrdd
- Helpu i sicrhau bod pob darparwr gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, yn cael ei ystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut y caiff lleoedd gofal plant a ariennir a grantiau eu dyrannu’n lleol.
- Sicrhau bod darpariaeth gwarchod plant yn cael ei chyfrif a’i disgrifio’n gywir, ac nad yw’n cael ei hanwybyddu.
Y darlun cyfan
- Sicrhau nad yw lleoedd newydd a ariennir neu gynlluniau gofal cofleidiol yn tanseilio nac yn dyblygu capasiti gofal plant presennol yn eich ardal.
Codi proffil gwarchod plant
- Defnyddio canfyddiadau cyhoeddus a chynlluniau gweithredu’r ADGP i ddangos rôl a gwerth gwarchodwyr plant i’r farchnad gofal plant ehangach.
Pam mae Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yn bwysig i awdurdodau lleol
Bodloni’r ddyletswydd gyfreithiol
Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau, cyn belled ag y mae’n rhesymol ymarferol, bod digon o ddarpariaeth gofal plant ar gael i’r rhieni a’r gofalwyr yn eu hardal sydd angen y gofal hwnnw.
Mae cynnal ADGPau hefyd yn ofyniad cyfreithiol ar awdurdodau lleol, gan roi darlun a dealltwriaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth iddynt o’r gofal plant sydd ei angen ar deuluoedd yn eu hardal, yr hyn sydd ar gael, a lle mae unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.
Cynllunio gyda thystiolaeth
Pan fydd ADGP yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth, mae’r awdurdod lleol yn datblygu cynllun gweithredu yn seiliedig ar ddata lleol.
Cefnogi blaenoriaethau ehangach Cymru
Mae canfyddiadau’r ADGP yn llywio gwaith cynllunio lleol arall, gan gynnwys ehangu darpariaeth gofal plant a ariennir, addysg cyfrwng Cymraeg a darpariaeth ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Clywed gan deuluoedd a darparwyr
Mae ymgynghori yn rhan o’r broses, fel y gall awdurdodau lleol glywed yn uniongyrchol gan rieni a gofalwyr, darparwyr gofal plant, sefydliadau ymbarél (gan gynnwys Coram PACEY Cymru) a chymunedau.
Mae’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau statudol sy’n sail i ADGPau yn cael eu diweddaru ac yn destun newidiadau; felly, gwiriwch y gofynion diweddaraf yn y dolenni isod.
Sut gall Coram PACEY Cymru helpu
Gall awdurdodau lleol fanteisio ar arbenigedd cenedlaethol a lleol Coram PACEY Cymru i helpu i gyflawni eu dyletswyddau ADGP, gan gynnwys:
- Tystiolaeth: Data arolygon cenedlaethol a mewnwelediadau’r sector i lywio dadansoddiad o alw a chyflenwad
- Ymgysylltu: Llwybrau uniongyrchol at warchodwyr plant ar gyfer ymgynghori a grwpiau ffocws
- Cefnogaeth barhaus: Gwasanaethau fel Coram PACEY Connect, sy’n helpu awdurdodau lleol i weithio gyda gweithwyr proffesiynol ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yn eu hardal
- Cefnogaeth ehangach: Yr ystod lawn o gefnogaeth yn ein Cynnig Craidd i awdurdodau lleol
Dewch o hyd i Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant eich awdurdod lleol
Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnal ei ADGP ei hun ac yn dilyn ei amserlen ei hun, ac maent oll yn gweithio tuag at y dyddiad cau cenedlaethol presennol sef 30 Mehefin 2027. Defnyddiwch y tabl isod i ddod o hyd i ddolenni i wybodaeth eich awdurdod lleol am yr ADGP, yn ogystal ag unrhyw fanylion a gweithgareddau ymgynghori sydd ar gael.
Gwybodaeth bellach
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am y ddeddfwriaeth a’r canllawiau sy’n ymwneud â ADGPau yma:
Canllawiau Statudol Gofal Plant ar gyfer Awdurdodau Lleol (Llywodraeth Cymru, Mehefin 2026)
Adolygiad o’r Ddyletswydd Asesu Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) ar Awdurdodau Lleol
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
E-bost: cymru@corampacey.org.uk
Ffôn: 02920 351407
