Coram PACEY Cymru has commissioned specialist legal advice and raised concerns with Welsh Government to help address the practical barriers facing childminders working from their homes in Wales.
As a childminder, your home is at the heart of the care you provide. But questions about planning, waste collections or permission to use your property can bring uncertainty, additional costs and time away from your business. We are using members’ experiences and specialist advice to strengthen our guidance and press for clearer approaches that recognise the home-based nature of childminding.
Building a stronger evidence base
We have worked with a legal team to examine four areas where childminders and those joining the profession continue to encounter concerns:
- Local planning: questions about planning requirements when providing childcare from home.
- Trade waste: how waste from home-based childminding is classified and collected.
- Landlord consent: permission to childmind from a rented home.
- Restrictive covenants: restrictions attached to a property that may affect its use for childminding.
This work will help us explain the issues more clearly to members and inform our discussions with decision-makers. It also highlights that unresolved questions remain: obtaining legal advice does not, in itself, change the rules or remove requirements affecting an individual setting.
Taking your concerns to Welsh Government
We have shared the advice provided by the legal team with Welsh Government and once again called for a clearer policy position on local planning and trade waste. We know despite the long awaited Welsh Government letter on Childcare and Planning specifically, the experiences reported to us show that challenges and differing local interpretations persist.
We continue to lobby and work with officials on these issues and asked for further discussion, including through the childminder working group linked to the review. Our message is clear: childminders have an important role in supporting the expansion of funded childcare in Wales, and unnecessary barriers must not undermine the sustainability of existing settings or discourage new people from joining the profession.
Why members’ experiences matter
One example shared with Welsh Government concerned a long-established childminder who reported being told, for the first time, that separate trade waste arrangements were required, despite no significant change to the service. The case illustrates the practical questions that can arise when childcare and family life share the same home, including where meals, packaging and everyday activities overlap.
Waste requirements remain an area where individual circumstances matter. We are seeking greater clarity so that members can understand what applies to their setting and why.
What this means for you
We plan to use the advice to develop a series of informative member blogs exploring each of the four topics in more detail. These will help explain the issues, the questions that remain and what members may need to consider in their own circumstances.
If you are having any issues in any of the areas noted above please contact us by email cymru@corampacey.org.uk.
By bringing members’ experiences together with specialist legal advice, we are making the case for clearer, more consistent and proportionate approaches to home-based childcare. You provide a valuable service for children and families. Our work is focused on ensuring that the systems around you recognise and support that contribution.
Mae Coram PACEY wedi comisiynu cyngor cyfreithiol arbenigol ac wedi codi pryderon gyda Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau ymarferol sy'n wynebu gwarchodwyr plant sy'n gweithio o'u cartrefi yng Nghymru.
Fel gwarchodwr plant, mae eich cartref wrth wraidd y gofal rydych yn ei ddarparu. Ond gall cwestiynau ynglŷn â chynllunio, casglu gwastraff neu ganiatâd i ddefnyddio eich eiddo arwain at ansicrwydd, costau ychwanegol ac amser i ffwrdd o'ch busnes. Rydym yn defnyddio profiadau ein haelodau a chyngor arbenigol i gryfhau ein canllawiau ac i bwyso am ddulliau cliriach sy'n cydnabod bod gwarchod plant yn digwydd yn y cartref.
Meithrin sylfaen dystiolaeth gryfach
Rydym wedi gweithio gyda thîm cyfreithiol i edrych ar bedwar maes lle mae gwarchodwyr plant a'r rhai sy'n ymuno â'r proffesiwn yn parhau i wynebu pryderon:
- Cynllunio lleol: cwestiynau ynghylch gofynion cynllunio wrth ddarparu gofal plant o'r cartref.
- Gwastraff masnachol: sut mae gwastraff o wasanaethau gwarchod plant yn y cartref yn cael ei ddosbarthu a’i gasglu.
- Caniatâd y landlord: caniatâd i warchod plant o gartref ar rent.
- Cyfamodau cyfyngol: cyfyngiadau sy'n gysylltiedig ag eiddo a allai effeithio ar ei ddefnydd ar gyfer gwarchod plant.
Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i egluro’r materion yn gliriach i aelodau ac i lywio ein trafodaethau gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod cwestiynau heb eu datrys o hyd: nid yw cael cyngor cyfreithiol, ynddo’i hun, yn newid y rheolau nac yn dileu’r gofynion sy’n effeithio ar leoliad unigol.
Cyflwyno eich pryderon i Lywodraeth Cymru
Rydym wedi rhannu'r cyngor a ddarparwyd gan y tîm cyfreithiol â Llywodraeth Cymru, ac, unwaith eto, wedi galw am safbwynt polisi cliriach ar gynllunio lleol a gwastraff masnachol. Rydym yn gwybod, er gwaethaf llythyr hir-ddisgwyliedig Llywodraeth Cymru ar Ofal Plant a Chynllunio yn benodol, fod y profiadau a adroddwyd i ni yn dangos bod heriau a dehongliadau lleol gwahanol yn parhau.
Rydym yn parhau i lobïo a gweithio gyda swyddogion ar y materion hyn, ac rydym wedi gofyn am drafodaeth bellach, gan gynnwys drwy'r gweithgor gwarchodwyr plant sy'n gysylltiedig â'r adolygiad. Mae ein neges yn glir: mae gan warchodwyr plant rôl bwysig wrth gefnogi ehangu gofal plant a ariennir yng Nghymru, ac ni ddylai rhwystrau diangen danseilio cynaliadwyedd lleoliadau presennol na digalonni pobl newydd rhag ymuno â'r proffesiwn.
Pam mae profiadau aelodau yn bwysig
Roedd un enghraifft a rannwyd â Llywodraeth Cymru yn ymwneud â gwarchodwr plant profiadol a ddywedodd ei bod wedi cael gwybod, am y tro cyntaf, bod angen trefniadau gwastraff masnachol ar wahân, er nad oedd unrhyw newid sylweddol wedi bod i'r gwasanaeth. Mae'r achos yn dangos y cwestiynau ymarferol a all godi pan fo gofal plant a bywyd teuluol yn rhannu'r un cartref, gan gynnwys lle mae prydau bwyd, deunydd pacio a gweithgareddau bod dydd yn gorgyffwrdd.
Mae gofynion gwastraff yn parhau i fod yn faes lle mae amgylchiadau unigol yn cyfrif. Rydym yn ceisio mwy o eglurder fel y gall aelodau ddeall beth sy'n berthnasol i'w lleoliad a pham.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Rydym yn bwriadu defnyddio'r cyngor i ddatblygu cyfres o flogiau gwybodaeth i aelodau, gan edrych yn fanylach ar bob un o'r pedwar pwnc. Bydd y rhain yn helpu i egluro'r materion, y cwestiynau sy'n parhau heb eu hateb, a'r hyn y gallai fod angen i aelodau ei ystyried yn eu hamgylchiadau eu hunain.
Os ydych yn cael unrhyw broblemau mewn unrhyw un o'r meysydd a nodir uchod, cysylltwch â ni drwy e-bost yn cymru@corampacey.org.uk.
Drwy ddod â phrofiadau aelodau ynghyd â chyngor cyfreithiol arbenigol, rydym yn cyflwyno'r achos dros ddulliau cliriach, mwy cyson a chymesur o ymdrin â gofal plant yn y cartref. Rydych chi'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i blant a theuluoedd. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau bod y systemau o'ch cwmpas yn cydnabod ac yn cefnogi'r cyfraniad hwnnw.