Care services across Wales are delivering higher standards of care, according to the Chief Inspector's Annual Report for 2025-26. The report shows how targeted inspection and enforcement is supporting measurable improvements whilst highlighting ongoing sector challenges.
Key points:
• Quality is generally strong. In childcare and play, 80% of ratings were good or excellent. This shows most services are delivering safe, compassionate and effective care.
• Provision is changing shape. Full day care services continue to grow, while childminding and sessional childcare are reducing. Capacity is largely being maintained, but not always in the forms of childcare families need most.
• Improvement is happening, but pressure points remain. Where we found poor care, leadership and management remained the most common weakness, often linked to staffing, governance, oversight, records, safeguarding and medication.
The report states:
This year 63 childminders registered (the same number as 2024-25). Whilst fewer childminders cancelled their registration than last year (116 compared to 147) the decline in the number of childminders in Wales continued. Common reasons given for childminders cancelling their registration Service type Number of services Number of places Childminder 1,364 11,336 Crèche 10 377 Full day care 1,149 46,111 Open access play provision 33 2,377 Out of school care 287 12,325 Sessional day care 296 6,842 Total 3,139 79,368 included leaving to pursue careers in other areas, changes in family circumstances and retirement.
This year, whilst there has been a 3.7% reduction in the number of childminders (315 fewer places), full day care services have increased by 2.5% providing 1,927 more places for children. The pattern may reflect parental preferences and demand, as well as the financial and operational benefits of largerscale provision.
Overall, the figures point to a sector that is changing shape rather than simply contracting. The total number of registered childcare and play services has fallen over the last decade, but this has not translated into an equivalent fall in capacity. Instead, provision appears to be consolidating into larger settings, particularly full day care, where both the number of services and the number of places have increased substantially. At the same time, the continuing decline in childminders and sessional day care suggests smaller and more flexible forms of provision are under sustained pressure. This matters because these services often provide local, family-based or part-time options that can be important for parental choice, rural communities and children who may benefit from smaller settings. The recent year-on-year figures reinforce this pattern: full day care expanded, while childminder numbers and places continued to fall. The sector is therefore maintaining overall capacity, but through a different mix of provision, with potential implications for accessibility, flexibility and parental choice.
"Behind every inspection finding and every rating is a person whose experience matters. Good care cannot be taken for granted, it demands sustained attention to leadership, staffing and safeguarding. But I have been encouraged this year by the dedication, skill and humanity shown right across the sector, and by people telling us they feel safe, listened to and cared for" said Gillian Baranski, Chief Inspector at CIW.
Claire Protheroe, Head of Contracts and Projects at Coram PACEY Cymru said:
"Coram PACEY Cymru welcome the publication of the annual report with the positivity this includes about the quality of the majority of childcare and play services in Wales. We echo CIW’s concerns around the continuing decline in childminders and continue to work closely with Welsh Government, CIW, Local Authorities and other partners to take forward actions to support work to address this. While there has been some progress to date linked to the Independent Review of Childminding published in 2023, Coram PACEY Cymru believe stronger activity is needed to ensure this has a positive impact on the decline. We believe additional funding and significant investment is needed and have shared our concerns with the Minister and Welsh Government officials."
Download the report
Mae gwasanaethau gofal ledled Cymru yn darparu safonau gofal uwch, yn ôl Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd ar gyfer 2025-26. Mae'r adroddiad yn dangos sut mae arolygiadau a chamau gorfodi wedi'u targedu yn cefnogi gwelliannau mesuradwy, gan dynnu sylw at heriau parhaus y sector ar yr un pryd.
Pwyntiau allweddol:
• Mae ansawdd yn gryf ar y cyfan. Ym maes gofal plant a chwarae, roedd 80% o’r graddau yn dda neu’n rhagorol. Mae hyn yn dangos bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau yn darparu gofal diogel, tosturiol ac effeithiol.
• Mae ffurf darpariaeth yn newid. Mae gofal dydd llawn yn parhau i dyfu, ond mae gwarchod plant a gofal plant sesiynol yn lleihau. Mae capasiti yn cael ei gynnal i raddau helaeth, ond nid bob amser ar ffurf y gofal a’r gofal plant sydd eu hangen fwyaf ar deuluoedd.
• Mae gwasanaethau’n gwella, ond mae mannau lle ceir pwysau o hyd. Lle gwnaethom nodi gofal gwael, arweinyddiaeth a rheolaeth oedd y gwendid mwyaf cyffredin o hyd, a hynny’n aml yn gysylltiedig â staffio, llywodraethu, goruchwyliaeth, cofnodion, diogelu a meddyginiaeth.
Mae'r adroddiad yn datgan:
Y flwyddyn hon, cofrestrodd 63 o warchodwyr plant (yr un nifer â 2024-25). Er i lai o warchodwyr plant ganslo eu cofrestriad na’r flwyddyn ddiwethaf (116 o gymharu â 147), parhaodd y gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant yng Nghymru. Roedd y rhesymau cyffredin a roddwyd gan warchodwyr plant dros ganslo eu cofrestriad yn cynnwys gadael i ddilyn gyrfaoedd mewn meysydd eraill, newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ac ymddeol.
Y flwyddyn hon, er y bu gostyngiad o 3.7% yn nifer y gwarchodwyr plant (315 yn llai o leoedd), mae gwasanaethau gofal dydd llawn wedi cynyddu 2.5% gan ddarparu 1,927 yn fwy o leoedd i blant. Gall y patrwm adlewyrchu galw a dewisiadau rhieni, yn ogystal â manteision ariannol a gweithredol darpariaeth ar raddfa fwy.
At ei gilydd, mae’r ffigurau’n awgrymu bod ffurf y sector yn newid yn hytrach na’i fod yn lleihau’n unig. Mae cyfanswm nifer y gwasanaethau gofal plant a chwarae wedi gostwng dros y degawd diwethaf, ond nid yw hyn wedi arwain at ostyngiad cyfatebol mewn capasiti. Yn hytrach, mae’n ymddangos bod darpariaeth yn cyfuno yn lleoliadau mwy o faint, yn enwedig gofal dydd llawn, lle mae nifer y gwasanaethau a nifer y lleoedd wedi cynyddu’n sylweddol. Ar yr un pryd, mae’r gostyngiad parhaus mewn gwarchodwyr plant a gofal dydd sesiynol yn awgrymu bod mathau llai a mwy hyblyg o ddarpariaeth dan bwysau parhaus. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod y gwasanaethau hyn yn aml yn darparu opsiynau lleol, teuluol neu ran-amser a all fod yn bwysig i ddewis rhieni, cymunedau gwledig a phlant a all elwa ar leoliadau llai o faint. Mae’r ffigurau diweddar o flwyddyn i flwyddyn yn atgyfnerthu’r patrwm hwn: gofal dydd llawn wedi ehangu, tra bo nifer a lleoedd gwarchodwyr plant wedi parhau i ostwng. Mae’r sector felly yn cynnal y capasiti cyffredinol, ond drwy gymysgedd gwahanol o ddarpariaeth, gyda goblygiadau posibl ar gyfer hygyrchedd, hyblygrwydd a dewis rhieni.
“Y tu ôl i bob canfyddiad arolygu a phob gradd, mae person y mae ei brofiad yn bwysig. Ni ellir cymryd gofal da yn ganiataol, mae'n gofyn am sylw parhaus i arweinyddiaeth, trefniadau staffio a diogelu. Ond mae'r ymroddiad, y sgiliau a'r tosturi sydd i'w gweld ym mhob rhan o'r sector, a'r ffaith bod pobl yn dweud wrthym eu bod yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu clywed a'u bod yn cael gofal wedi codi fy nghalon y flwyddyn hon,” dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd AGC.
Dywedodd Claire Protheroe, Pennaeth Contractau a Phrosiectau
"Mae Coram PACEY Cymru yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad blynyddol gyda’r positifrwydd y mae hwn yn ei gynnwys am ansawdd y mwyafrif o wasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru. Rydym yn adleisio pryderon AGC ynghylch y gostyngiad parhaus mewn gwarchodwyr plant ac yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, AGC, Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill i gymryd camau gweithredu i gefnogi gwaith i fynd i’r afael â hyn. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud hyd yma yn gysylltiedig â'r Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant a gyhoeddwyd yn 2023, mae Coram PACEY Cymru yn credu bod angen gweithgarwch cryfach i sicrhau bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y dirywiad. Credwn fod angen cyllid ychwanegol a buddsoddiad sylweddol ac rydym wedi rhannu ein pryderon â’r Gweinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru."
Lawrlwythwch yr adroddiad