Gweminarau ar gyfer Cymru
Os ydych chi am drafod materion gofal plant pwysig mewn lleoliad cyfeillgar a chefnogol, cofrestrwch i un o’n sesiynau rhyngweithiol a arweinir gan aelod o dîm Coram PACEY Cymru.
Mae ein gweminarau yn eich helpu i gadw’n gyfoes a pharhau â’ch datblygiad proffesiynol o gysur eich cartref.
Mae Coram PACEY Cymru hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau i’ch cefnogi i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch arfer.
Dyma beth oedd gan un aelod diweddar i’w ddweud am ei phrofiad gweminar:
“Fy mhryderon am weminar oedd na fyddai fel gweithdy wyneb yn wyneb, ond rwyf wedi darganfod nad yw hynny’n wir. Fe wnaethon ni ryngweithio yn union yr un ffordd gyda’r cyfleustra o beidio â gorfod gyrru i leoliad. (gwarchodwr plant, Cymru)
Gweminarau sydd ar ddod yng Nghymru
Tachwedd 2026
Dydd Mawrth 3 Tachwedd 6:30-7yp, Cymorth Iaith Cymraeg Archebwch yma
Dydd Mercher 4 Tachwedd 10-11:15yb, Sesiwn Friffio* Archebwch yma
Dydd Mercher 11 Tachwedd 6:30-8yp, Fforwm gwarchodwyr plant Archebwch yma
Dydd Mawrth 17 Tachwedd 6:30-8:30pm: Niwroamrywiaeth-Cysylltiad, Rhyngweithiadau ac Ymgysylltiad Chwarae gyda Phlant Niwroamrywiol a’u Teuluoedd Archebwch yma
Dydd Iau 19 Tachwedd 6-7:15yp Sesiwn Friffio* Archebwch yma
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 6-7yp, Dechrau’ch taith dysgu Archebwch yma
Dydd Mercher 25 Tachwedd 6-7yp, C&A Cwricwlwm Archebwch yma
Mis Rhagfyr
Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 6:30-8yh, Fforwm gwarchodwyr plant Archebwch yma
Dydd Iau 3 Rhagfyr 10-11:15yb, Sesiwn Friffio* Archebwch yma
Dydd Mercher 16 Rhagfyr 6-7yp, Dechrau’ch taith dysgu Archebwch yma
Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 6-7:15yp Sesiwn Friffio* Archebwch yma
Ionawr 2027
Dydd Mawrth 26 Ionawr 6:30-8:30pm: Niwroamrywiaeth-Cynghreiriaeth Rhieni Archebwch yma
Chwefror 2027
Dydd Iau 25 Chwefror 6:30-9pm: Gwydnwch – datblygu’ch gallu i fownsio’n ôl Archebwch yma
*Mae’r gweminarau hyn am ddim i bawb
Mae pob gweminar yn rhad ac am ddim i aelodau, ymarferwyr a dysgwyr Coram PACEY yng Nghymru.
Fideo- Ysgrifennu ac adolygu eich polisïau a’ch gweithdrefnau
Dyma’r cyntaf yn ein cyfres o weminarau cymorth cyn cofrestru. Pan ddewch yn warchodwr plant yng Nghymru, mae angen i chi gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Bydd y gweminar hwn yn eich helpu i ysgrifennu polisïau ar gyfer eich cais AGC, neu adolygu’r hyn rydych wedi’i ysgrifennu ar ôl cofrestru. Fel gwarchodwr plant, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’r Rheoliadau sydd yno a bydd y gweminar hwn yn rhoi esboniad o hyn.
Fideo- Ysgrifennu ac adolygu eich Datganiad o Ddiben
Pan fyddwch chi’n cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru, mae angen i chi ysgrifennu Datganiad o Ddiben, datganiad personol amdanoch chi a’ch gwasanaethau gwarchod plant. Bydd y fideo hon yn eich helpu i ysgrifennu eich Datganiad o Ddiben, neu ei adolygu os ydych chi eisoes wedi cofrestru.
Fideo- Cwblhau eich Cais Cofrestru (AGC)
Mae’r fideo hwn yn rhoi trosolwg o’r camau nesaf ar ôl ysgrifennu’ch polisïau a’ch gweithdrefnau. Byddwn yn mynd trwy broses Ymgeisio AGC a’r gwaith papur angenrheidiol. Bydd y fideo hwn yn eich cefnogi i ddefnyddio’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, Rheoliadau, a gwybodaeth arall i ateb y cwestiynau addasrwydd.
Rydym yn argymell eich bod yn gwrando ar y fideos Datganiad o Ddiben ac Ysgrifennu’ch Polisïau a Gweithdrefnau yn gyntaf.
Cyn-gofrestru
Sesiynau briffio
Os ydych chi’n frwd ynglŷn â rhoi’r dechrau gorau posib i fywyd i blant a hoffech gael gyrfa sy’n gweddu i’ch ymrwymiadau teuluol, yna gallai gyrfa fel gwarchodwr plant cofrestredig fod yn ddelfrydol i chi. Mae’r gweithdy hwn yn amlinellu manteision dod yn warchodwr plant, a sut y gallwch feithrin eich sgiliau a datblygu busnes wrth gefnogi plant a theuluoedd yn eich cymuned leol.
Bydd y weminar hwn yn egluro rolau gwarchodwr plant cofrestredig a nani gymeradwy, yn ogystal â’ch galluogi i wneud y canlynol:
- Deall y broses gofrestru neu gymeradwyo
- Ystyried ai gwarchod plant neu ddod yn nani yw’r dewis gyrfa cywir i chi
- Deall y camau nesaf
Ysgrifennu eich polisïau a'ch gweithdrefnau
Yn dilyn y gweminar hwn, byddwch yn gallu:
- Deall gwybodaeth berthnasol sy’n ofynnol yn eu Polisïau a’u Gweithdrefnau i leoliadau gwarchod plant yn unol â rheoliadau AGC.
- Deall sut i ddefnyddio’r canllawiau i gofrestru/diweddaru eich gwasanaeth.
Cwblhau eich cais AGC
Yn dilyn y sesiwn hon, byddwch yn gallu:
- Adnabod y wybodaeth berthnasol sydd yn ofynnol o gais cofrestru AGC
- Paratoi i gwblhau’ch cais cofrestru gan ddefnyddio canllawiau PACEY Cymru ac AGC
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu’r gweminarau Datganiad o Ddiben ac Ysgrifennu’ch Polisïau a Gweithdrefnau cyn hyn.
Dechrau'ch taith dysgu
Ar ôl y weminar, byddwch yn gallu:
- Cyrchu’r adnoddau sydd eu hangen i ddechrau’ch cwrs
- Deall sut i lywio’r platfform
- Ystyried sut i reoli’ch amser i gwrdd â’r dyddiad cau
- Deall gofynion y meini prawf asesu
- Gwybod sut a phryd i gyfeirnodi’ch gwaith
Datganiad o Ddiben
Yn dilyn y gweminar hwn, byddwch yn gallu:
- Nodi’r wybodaeth berthnasol sy’n ofynnol yn eu Datganiad o Ddiben
- Paratoi eu Datganiad o Ddiben gan ddefnyddio canllaw PACEY Cymru ac AGC
C&A cyn-gofrestru
Mae PACEY Cymru yn eich gwahodd i ymuno â’n sesiwn galw heibio ar-lein C&A cyn-gofrestru misol. Mae’n gyfle i chi ofyn cwestiynau a cheisio cyngor. Bydd y sesiynau’n anffurfiol ac yn hamddenol ac yn gyfle i sgwrsio â thîm PACEY.
Fforwm gwarchodwyr plant
Fforwm gwarchodwyr plant
Arfer Proffesiynol (darparu gwasanaeth gwarchod plant o safon)
Camau at Ddiogelwch - Asesiadau Risg
Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:
- Disgrifio beth yw asesiadau risg a nodi’r rhesymau pam eu bod nhw’n bwysig
- Ystyried lefelau risgiau a’r camau y gellir eu cymryd i leihau’r rhain
- Ystyried gwahaniaethu risgiau yn dibynnu ar oedran plant a’u cam datblygu
Paratoi ar gyfer arolwg
Yn dilyn y weminar hon byddwch yn gallu:
- Deall proses arolygu’r AGC a’r hyn i’w ddisgwyl
- Paratoi ar gyfer eich arolwg AGC
- Adnabod sut i dystiolaethu a hyrwyddo ansawdd eich gwasanaeth
- Deall y sgôr a myfyrio ar eich ymarfer
Cwblhau eich Adolygiad Ansawdd Gofal blynyddol
Yn dilyn y weminar hwn byddwch yn gallu:
- Deall pwysigrwydd hunan-fyfyrio
- Myfyrio ar feysydd o arfer gofal plant mewn perthynas â themâu Fframwaith Arolygu AGC
- Gwybod pa wybodaeth sydd angen ei chynnwys yn eich Adolygiad Ansawdd Gofal.
Dyma beth oedd gan un aelod diweddar i’w ddweud:
Yn ôl ym mis Chwefror ymunais â’r gweminar ysgrifennu adroddiad Ansawdd Gofal ac, o ganlyniad, newidiais y ffordd rwy’n ysgrifennu fy adroddiad fy hun. Cefais fy arolwg hirddisgwyliedig ddoe, a’r sylw gan yr arolygwr oedd mai fy Adroddiad Ansawdd Gofal i yw o bosib yr un gorau a welodd hi erioed. Yn bendant yn werth aberthu noswaith werthfawr i fynychu’r hyfforddiant.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyflwyniad i gefnogi meddwl plant
Bydd y weminar yma yn eich helpu i godi ymwybyddiaeth o sut y gallwch gefnogi meddwl plant, gan gynnwys gweithgareddau sy’n ymwneud â thasg a ffocws, datrys problemau a datblygu’r dychymyg. Mae ffocws cryf ar lesiant a hunanreoleiddio trwy ryngweithio sensitif ag eraill trwy gydol yr hyfforddiant. Byddwn yn trafod sut y gall hunan-fyfyrio a’r rhyngweithio rhwng oedolyn a phlentyn wella ansawdd y ddarpariaeth a lles plant sy’n annog cynnydd yn ansawdd y gofal.
Yn dilyn y weminar hon byddwch yn gallu:
- Deall beth yw ystyr meddwl ar y cyd parhaus o ran datblygiad plant
- Archwilio’r defnydd o feddwl ar y cyd parhaus er mwyn cefnogi lles emosiynol y plentyn
- Myfyriwch ar y cyfleoedd a ddarperir yn eich lleoliad
Cynorthwyo plant i feddwl – Rhan 2
Mae’r weminar hon yn dilyn ymlaen o’r cyflwyniad i gefnogi meddwl plant lle byddwn yn edrych ar sut i ddefnyddio’r Meddwl Cyson a Rennir a Lles Emosiynol (SSTEW) fel Pecyn Cymorth hunan-fyfyriol. Wnawn eich tywys drwy’r adnodd a darparu senarios i gefnogi arfer da trwy edrych ar bump is-raddfa SSTEW sy’n cynnwys: (i) Adeiladu ymddiriedaeth a hyder, (ii) Lles cymdeithasol ac emosiynol, (iii) Cefnogi ac ymestyn iaith a chyfathrebu, (iv) Cefnogi dysgu a meddwl yn feirniadol, (v) Asesu dysgu ac iaith. Trwy gydol y gweithdy hwn byddwn yn egluro cysyniad Pecyn Cymorth Graddfa SSTEW.
Yn dilyn y weminar hon byddwch yn gallu:
- Deall pwrpas Pecyn Cymorth SSTEW
- Defnyddiwch Raddfa SSTEW fel adnodd hunan-fyfyriol i wella’ch datblygiad proffesiynol
Cyfathrebu Hyderus - Pendantrwydd
Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:
- Deall pwysigrwydd hunanddelwedd a hunan-barch
- Deall beth mae pendantrwydd yn ei olygu
- Nodi strategaethau i gyfathrebu’n fwy hyderus
Fy llais, Fy newis - Hawliau plant a chyfranogi
Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:
Diffinio cyfranogiad effeithiol
- Adnabod arfer da cyfredol
- Datblygu sgiliau i gasglu tystiolaeth ar gyfer AGC o ran llais plant yn eich lleoliad
- Defnyddio’r dystiolaeth i fyfyrio a gwella eich arfer chi
Datblygu Busnes Gofal Plant
Tyfu fy musnes
Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:
- Edrych ar offer a strategaethau i farchnata eich busnes gofal plant
- Deall gofynion cadw cofnodion
- Ystyried cynllunio ariannol a goblygiadau cynnal busnes proffesiynol
- Gwybod ble i gael cyngor a chefnogaeth gan eraill
Cymorth ymgeisio am grant
Yn dilyn y gweminar, byddwch yn gallu ystyried:
- y broses ymgeisio am grant
- y wybodaeth sydd ei hangen
- sut gall grant gefnogi’ch lleoliad
- sut i baratoi cais grant llwyddiannus
Cymorth i'r rhai sydd newydd gofrestru
Datblygiad Iaith Cymraeg
Cymorth Iaith Cymraeg
Yn dilyn y gweminar hwn, byddwch yn gallu:
- Cyflwyno Cymraeg mewn gweithgareddau ac arferion bob dydd ar thema benodol i gefnogi datblygiad Cymraeg plant
- Myfyrio ar arfer presennol a nodi ffynonellau hyfforddiant neu gefnogaeth bellach
