Neurodiversity webinars (Wales)/Gweminarau niwroamrywiaeth

 

 

Darllenwch hyn yn gymraeg yma/read this in Welsh here

Belonging Begins Here: A Neurodiversity-Affirming Journey in the Early Years

Join Coram PACEY Cymru and Cheryl Warren from Aperion Training for webinars in Wales on the importance of understanding neurodiversity in the early years.  Cheryl has over 30 years’ experience in the early years sector as well as a parent of neurodivergent children.

Every child deserves to feel safe, seen, and celebrated for who they are. Yet for many neurodivergent children, early years settings can still feel confusing, overwhelming, or even unsafe, but because the world has so often misunderstood difference.

As childcare and early years professionals, we’re in a powerful position to change that story. The way we see and respond to children, the language we use, the environments we create, and the connections we make, can make all the difference between a child feeling misunderstood and a child feeling they truly belong.

That’s what Cheryls’ upcoming Neurodiversity in the Early Years Webinars are all about: helping you build the understanding, confidence, and compassion needed to create spaces where every child can thrive just as they are.

You’ll come away with not only practical strategies but also a renewed sense of purpose, a reminder of how much impact you can have simply by showing up with empathy and curiosity.

Webinars 1-3: Understanding Neurodiversity and Creating Sensory-Safe Spaces

The first three webinars focus on laying the foundations, understanding what neurodiversity really means and how it shows up in everyday early years life.

Webinars 4 and 5: Building Connection and Collaboration

The second block of webinars is all about deepening connection, with children and families.

When are the sessions being held and how do I book?

We would suggest you attend all webinars in the series as they grow and develop knowledge across all five. Please register in advance by clicking on the link to the sessions below.

Session Content Date Time Booking link

An Introduction to Neurodiversity in the Early Years and becoming a Neurodiversity-Affirming practitioner

 

Exploring how we can move away from a “what’s wrong” mindset towards one of genuine curiosity and celebration of difference. It’s about shifting from seeing behaviours as problems to seeing them as communication, a child’s way of showing us how they’re experiencing the world. Tuesday 9 June 2026 6:30-8.30pm

 

Book here

 

Understanding Sensory Systems Most of us were taught about just five senses, but our sensory world is far richer and more complex. Understanding proprioception, vestibular input and interoception help us see why some children seek certain sensations while others avoid them and how we can support them to feel calm, safe, and regulated throughout the day. Tuesday 7 July 2026 6:30-8.30pm

 

Book here

 

 

Creating a Safe environment and Understanding Neurodivergent Behaviours This is where the “why” meets the “how.” You’ll gain practical strategies for designing inclusive spaces that reduce overwhelm, support self-regulation, and nurture genuine connection Tuesday 22 September 2026 6:30-8.30pm

Book here

 

Play Connection, Interaction and Engagement with Neurodivergent Children and Families. Exploring how play can become a bridge for communication and co-regulation. When we slow down, follow a child’s lead, and join their world with respect and joy, we create the conditions for trust and growth. Tuesday 17 November 2026 6:30-8.30pm  Book here
Parent Allyship Families are the experts on their children. When we work in true partnership, listening without judgement, sharing insights, and walking alongside, we create powerful support networks around every child. Tuesday 26 January 2027 6:30-8.30pm

 

Book here

Cost?

Free for Coram PACEY members in Wales to attend and all non-member registered childminders in Wales.

What do I need to know to attend the session?

  • Once your registration has been confirmed you will receive an email invite to join the session.
  • The session is being held virtually through Zoom. You will need access to the internet with a reliable connection.
  • A desktop computer or laptop is recommended.
  • A headset or earphones that have a microphone is needed (your smartphone earphones should suffice, an inbuilt microphone may be used but sound quality is often better with a headset).
  • You will need to have a quiet space to enable you to use your microphone and interact in the session.

Further information

Coram PACEY Cymru also offer a range of webinars and events. If you have any queries please email cymru@corampacey.org.uk.

 

Mae Perthyn yn Dechrau Yma: Taith sy’n Gadarnhaol am Niwroamrywiaeth yn y Blynyddoedd Cynnar

Ymunwch â Coram PACEY Cymru a Cheryl Warren o Aperion Training ar gyfer gweminarau yng Nghymru ar bwysigrwydd deall niwroamrywiaeth yn y blynyddoedd cynnar.  Mae gan Cheryl dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector blynyddoedd cynnar ac mae hi hefyd yn rhiant i blant niwroamrywiol.

Mae pob plentyn yn haeddu teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gweld a’u dathlu am bwy ydyn nhw. Eto i gyd, i lawer o blant niwroamrywiol, gall lleoliadau blynyddoedd cynnar deimlo’n ddryslyd, yn llethol, neu hyd yn oed yn anniogel, oherwydd bod y byd wedi camddeall gwahaniaeth yn aml iawn.

Fel ymarferwyr gofal plant a blynyddoedd cynnar, rydyn ni mewn sefyllfa bwerus i newid y stori honno. Gall y ffordd rydyn ni’n gweld ac yn ymateb i blant, yr iaith rydyn ni’n ei defnyddio, yr amgylcheddau rydyn ni’n eu creu, a’r cysylltiadau rydyn ni’n eu creu, wneud yr holl wahaniaeth rhwng plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei gamddeall a phlentyn yn teimlo ei fod wir yn perthyn.

Dyna mai Gweminarau Niwroamrywiaeth yn y Blynyddoedd Cynnar Cheryl sydd ar ddod yn canolbwyntio arno: helpu chi i feithrin y ddealltwriaeth, yr hyder a’r tosturi sydd eu hangen i greu mannau lle gall pob plentyn ffynnu yn union fel y maen nhw.

Byddwch yn gadael y gweminarau gyda strategaethau ymarferol ond hefyd gydag ymdeimlad newydd o bwrpas, wedi cael eich atgoffa faint o effaith gallwch ei chael drwy fod yn empathetig ac yn chwilfrydig.

Gweminarau 1-3: Deall Niwroamrywiaeth a Chreu Mannau sy’n Ddiogel yn Synhwyraidd

Mae’r tair gweminar gyntaf yn canolbwyntio ar y sylfeini – deall beth mae niwroamrywiaeth yn ei olygu mewn gwirionedd a sut mae’n ymddangos ym mywyd bob dydd y blynyddoedd cynnar.

Gweminarau 4 a 5: Meithrin Cysylltiad a Chydweithio

Mae’r ail floc o weminarau yn ymwneud â dyfnhau cysylltiadau â phlant a’u teuluoedd.

Pryd mae’r sesiynau yn cael ei chynnal a sut ydw i’n archebu lle?

Byddem yn awgrymu eich bod yn mynychu pob gweminar yn y gyfres gan y bydd eich gwybodaeth yn tyfu ac yn datblygu dros y pump. Cofrestrwch ymlaen llaw drwy glicio ar y dolenni i’r sesiynau isod.

Sesiwn Cynnwys
Dyddiad Amser Dolen i archebu
Cyflwyniad i Niwroamrywiaeth yn y Blynyddoedd Cynnar a dod yn ymarferydd sy’n Gadarnhaol am Niwroamrywiaeth Archwilio sut gallwn ni symud i ffwrdd o feddylfryd “beth sy’n bod” tuag at un o chwilfrydedd dilys a dathlu gwahaniaeth. Mae’n ymwneud â newid o weld ymddygiadau fel problemau i’w gweld fel cyfathrebu, ffordd plentyn o ddweud wrthym ni sut maen nhw’n profi’r byd. Dydd Mawrth 9 Mehefin 2026 6:30-8:30pm  Archebwch yma
Deall Systemau Synhwyraidd Dysgodd y rhan mwyaf ohonom ni am y pum synnwyr, ond mae ein byd synhwyraidd yn llawer mwy cyfoethog a chymhleth na hynny. Mae deall propriodderbyniaeth, mewnbwn festibwlar ac interodderbyniaeth yn ein helpu i weld pam fod rhai plant yn mynd ar drywydd teimladau penodol tra bod eraill yn eu hosgoi a sut y gallwn ni eu cefnogi i deimlo’n dawel, yn ddiogel ac o dan reolaeth drwy gydol y diwrnod. Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2026 6:30-8:30pm  Archebwch yma
Creu amgylchedd Diogel a Deall Ymddygiadau Niwroamrywiol Dyma lle mae’r “pam” yn datblygu i’r “sut.” Byddwch yn dysgu strategaethau ymarferol ar gyfer dylunio mannau cynhwysol sy’n lleihau gorlethu, yn cefnogi hunanreoleiddio, ac yn meithrin cysylltiad dilys Dydd Mawrth 22 Medi 2026 6:30-8:30pm  Archebwch yma
Cysylltiad, Rhyngweithiadau ac Ymgysylltiad Chwarae gyda Phlant Niwroamrywiol a’u Teuluoedd Archwilio sut y gall chwarae fod yn bont ar gyfer cyfathrebu a chyd-reoleiddio. Pan fyddwn ni’n arafu, yn dilyn arweiniad plentyn, ac yn ymuno â’u byd gyda pharch a llawenydd, byddwn yn creu’r amodau ar gyfer ymddiriedaeth a thwf. Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026 6:30-8:30pm Archebwch yma
Cynghreiriaeth Rhieni Teuluoedd yw’r arbenigwyr ar eu plant. Pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth wirioneddol, gan wrando heb farnu, rhannu mewnwelediadau, a cherdded ochr yn ochr, rydym yn creu rhwydweithiau cymorth pwerus o amgylch pob plentyn. Dydd Mawrth 26 Ionawr 2027 6:30-8:30pm Archebwch yma

Cost?

Yn rhad ac am ddim i aelodau Coram PACEY Cymru a holl warchodwyr plant cofrestredig Cymru nad ydynt yn aelodau.

Beth sydd angen i mi ei wybod cyn mynychu’r sesiwn?

  • Unwaith y bydd eich cofrestriad wedi’i gadarnhau byddwch yn derbyn gwahoddiad e-bost i ymuno â’r sesiwn.
  • Mae’r sesiwn yn cael ei chynnal yn rhithiol trwy Zoom. Bydd angen i chi gael mynediad i’r rhyngrwyd gyda chysylltiad dibynadwy.
  • Argymhellir cyfrifiadur neu liniadur.
  • Mae angen clustffonau neu glustffonau sydd â meicroffon (dylai clustffonau eich ffôn clyfar fod yn ddigon, gellir defnyddio meicroffon wedi’i fewnosod ond mae ansawdd sain yn aml yn well gyda chlustffon.
  • Bydd angen lle tawel arnoch i’ch galluogi i ddefnyddio’ch meicroffon a rhyngweithio yn y sesiwn.

Gwybodaeth bellach

Mae Coram PACEY Cymru hefyd yn cynnig ystod o weminarau a digwyddiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch cymru@corampacey.org.uk.

Socials

Get your daily dose of all that’s going on in the childcare and early years sector