Mae aelodaeth Ymarferydd Coram PACEY bellach yn cynnwys Yswiriant Ymarferydd Coram PACEY yn safonol i helpu i ddiogelu a thawelu meddwl. Mae’r yswiriant yn cynnig yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a chynnyrch ac atebolrwydd cyflogwr hyd at £10 miliwn; ynghyd ag yswiriant Indemniad Proffesiynol a Threuliau Cyfreithiol o hyd at £100,000; Yswiriant Cynnwys Ymarferydd ac Eiddo Arall hyd at £1000; Yswiriant ar gyfer Colli Refeniw hyd at £20,000; ac yswiriant ar gyfer Tystysgrif Atal Cofrestru Dros Dro o hyd at £2500.
Yn ogystal, mae yswiriant treuliau cyfreithiol hefyd wedi’i gynnwys ar gyfer cyngor cyfreithiol, gyda nodweddion newydd o:
- Cwnsela am ddim, cyfrinachol a phroffesiynol i’r aelod, ei deulu, ac unrhyw staff y maent yn eu cyflogi
- Cyngor Treth
- Cyfathrebu mewn Argyfwng
- Datrys Dwyn Hunaniaeth
- Cymorth Diswyddo
(Mae telerau, amodau, cyfyngiadau, eithriadau a gormodedd yn berthnasol yn unol â Geiriad y Polisi.)
Yn ogystal, bydd gan aelodau Cychwyn o Ansawdd fynediad i’r holl fuddion gwerthfawr y mae Coram PACEY yn eu cynnig:
- Hyfforddiant DPP byr ar-lein ac am ddim yn ogystal â chyrsiau hyfforddi gostyngol gan gynnwys Cymorth Cyntaf, Diogelu a Hylendid Bwyd, gan helpu i feithrin hyder yn eu hymarfer.
- Cefnogaeth ffôn y tu allan i oriau gan Gynghorwyr Coram PACEY – delfrydol ar gyfer tawelu meddwl, ysbrydoliaeth neu hyd yn oed i sgwrsio trwy fater.
- Digwyddiadau rhithwir i aelodau yn unig – cyfle i rannu syniadau, ennill ysbrydoliaeth a bod yn rhan o gymuned o’r un meddylfryd trwy ymuno ag aelodau eraill i glywed gan arbenigwyr blaenllaw ar ystod o faterion. Mae 96% o fynychwyr blaenorol yn dweud eu bod yn “ddefnyddiol” neu’n “ddefnyddiol iawn”, gyda 100% o fynychwyr yn bwriadu cofrestru ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
- Cylchgronau digidol a phrint am ddim sydd yn llawn cyngor defnyddiol ac ysbrydoliaeth
- Cylchlythyrau pwrpasol a pherthnasol yn rhannu’r canllawiau diweddaraf.
Am daliad o £148.16* (heb gynnwys TAW ac yn cynnwys disgownt) (Cymru yn unig) ae’r pecyn Cychwyn o Ansawdd yn cynnwys;
- Aelodaeth Ymarferydd PACEY am flwyddyn sy’n cynnwys Yswiriant Ymarferwr PACEY, sy’n cynnig yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac Atebolrwydd Cyflogwr, wedi’i drefnu a’i weinyddu gan Morton Michel Limited ac wedi’i danysgrifennu gan QBE UK Limited
- Pecyn Cymorth Coram PACEY, yn llawn dogfennau busnes hanfodol gan gynnwys contractau, ffurflenni cofnodion plant, llyfr cyfrifon, a ffurflenni digwyddiadau, meddyginiaeth a damweiniau
- Mynediad diderfyn i adnoddau Coram PACEY, gan gynnwys taflenni ffeithiau, canllawiau ymarfer a fideos sut i wneud
- Mynediad am ddim i CEY Smart – ein llwyfan hyfforddi ar-lein o ansawdd
- Cefnogaeth gyfreithiol am ddim a ddarperir gan ARAG
- Copïau digidol ac wedi’u printio o’r cylchgrawn ‘Childcare Professional’
- Gostyngiadau yn siop Coram PACEY sy’n darparu eitemau hanfodol am brisiau gwych
- Hyfforddiant Diogelu gostyngedig
- Cymorth busnes, gan gynnwys canllawiau polisïau a gweithdrefnau hanfodol
Mae Ansawdd Cychwyn yn union hynny – ffordd wych o helpu gwarchodwyr plant newydd yn eich ardal i gael cychwyn o safon yn eu gyrfa newydd, gan eu helpu i ddatblygu busnesau cryf, hyfyw, a gwella’r ddarpariaeth gofal plant lleol.
*Darllen mwy- Gostyngiadau ar aelodaeth PACEY yng nghymru rhwng Ebrill 25 a Mawrth 26
I ddysgu rhagor am sut mae’r pecyn Cychwyn o Ansawdd yn cefnogi gwarchodwyr plant newydd yn eich ardal chi yng Nghymru, cysylltwch â swyddfa Cymru ar 02920 351407 neu e-bostiwch paceycymru@pacey.org.uk
SYLWER Bydd yn ofynnol i unigolion a roddir ar y cynllun Cychwyn o Ansawdd lenwi a dychwelyd y ffurflen gais, i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen, cyn y gellir prosesu eu haelodaeth a’u hyswiriant.