Sioned Williams MS, Deputy First Minister and Cabinet Minister for Social Justice and Equality has written to update the sector on the plans for the expansion of funded childcare in Wales.
The Deputy First Minister said:
"Our commitment is that all children from 9 months to 4 years across Wales should be able to benefit from a simpler high quality and more consistent funded childcare offer by the end of this Senedd term. We know this will only be achievable in partnership with you. We have an opportunity for Wales to join only a handful of nations in the world who have a truly universal childcare offer. We know that improving access to quality childcare supports families, addresses gender inequality, supports the economy and leads to better health and educational outcomes for children. We are determined to make this ambition a reality and to deliver a childcare system that works for children, families, providers and local authorities across Wales."
Some information has now been shared on how this will be delivered.
Phasing and sequencing
- The first focus will be completing the roll-out of 12.5 funded hours for all 2-year-olds.
- After this the focus will be increasing provision for 2-year-olds to 20 hours and 48 weeks. Local authorities will determine the pace based on local circumstances and the funding available to them. Some areas will be able to increase hours, weeks or both more quickly than others, but we will work with you to understand how you can be supported to deliver this.
- In parallel, Welsh Government want local authorities to start working with all providers to roll out the expanded offer to 3- and 4-year-olds, subject to confirmation of the funding that can be provided. This will build on nursery education and provide additional childcare for parents who are not currently eligible for further childcare support.
- The final phase will be the introduction of 20 hours of universal childcare for children aged 9 months to 2 years.
- Increasing Welsh-medium provision throughout all phases will be a focus.
Working together
Welsh Government understand the need to work closely with a range of partners to recognise opportunities and challenges.
Delivery will depend on having the right capacity, skills and support in place to provide high-quality childcare. Research and data gathering is under way and Welsh Government are exploring options to support workforce growth. In partnership with the sector, they will produce a Workforce Plan setting out how they will support the childcare workforce to grow and thrive.
Claire Protheroe, Head of Contracts and Projects for Coram PACEY who leads work in Wales said:
"We are working closely with Welsh Government, Local Authorities and other partners on the work linked to the expansion of childcare in Wales. We are continuing to highlight issues and potential solutions as they arise. We have met with the Deputy First Minister on this in June and also had a workshop earlier in July facilitated by Welsh Government for Cwlwm partners and local authority staff. We have been clear, through our lobbying work, of the need to ensure any programmes are child centred. We have shared, and continue to share, the challenges childminders are facing specifically and the need for them to be involved as direction is determined."
We want to reassure members that the voices of childminders are being heard at all levels. We know that a simplified system for families and providers is needed if the expansion is going to be a success.
You can hear more about the plans here
Mae Sioned Williams AS, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, wedi ysgrifennu i roi gwybod i'r sector am y cynlluniau ar gyfer ehangu gofal plant wedi’i ariannu yng Nghymru.
Mi ddywedodd
“Ein hymrwymiad yw y dylai pob plentyn rhwng 9 mis a 4 oed ledled Cymru allu elwa ar gynnig gofal plant a ariennir symlach, mwy cyson ac uchel ei ansawdd erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Rydym yn gwybod mae dim ond mewn partneriaeth gyda chi y bydd modd cyflawni hyn. Mae gennym gyfle i Gymru ymuno â dim ond llond llaw o wledydd yn y byd a chanddynt gynnig gofal plant sydd wir i bawb. Rydym yn gwybod bod gwella mynediad at ofal plant rhagorol yn cefnogi teuluoedd, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran rhywedd, yn cefnogi'r economi ac yn arwain at well canlyniadau iechyd ac addysg i blant. Rydym yn benderfynol o wireddu'r uchelgais hon a darparu system gofal plant sy'n gweithio i blant, teuluoedd, darparwyr ac awdurdodau lleol ledled Cymru.”
Mae gwybodaeth bellach wedi’i rhannu ar sut fydd hyn yn cael ei gyflwyno.
Cyflwyno fesul cam a threfn y gweithredu
- Ein ffocws cyntaf fydd cwblhau'r broses o gyflwyno 12.5 awr a ariennir i bob plentyn 2 oed.
- Yn dilyn hyn, bydd y ffocws ar ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer plant 2 oed i 20 awr a 48 wythnos. Bydd awdurdodau lleol yn pennu'r cyflymder yn seiliedig ar amgylchiadau lleol a'r cyllid sydd ar gael iddynt. Bydd rhai ardaloedd yn gallu cynyddu oriau, wythnosau neu'r ddau yn gyflymach nag eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall sut y gallwch gael eich cefnogi i gyflawni hyn.
- Ar yr un pryd, rydym am i awdurdodau lleol ddechrau gweithio gyda'r holl ddarparwyr i gyflwyno'r cynnig estynedig i blant 3 a 4 oed, yn amodol ar gadarnhad o'r cyllid y gellir ei ddarparu. Bydd hyn yn adeiladu ar y ddarpariaeth addysg feithrin bresennol ac yn ymestyn cymorth gofal plant i deuluoedd nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd i gael cymorth ychwanegol.
- Bydd y cam olaf yn cyflwyno 20 awr o ofal plant cyffredinol i blant rhwng 9 mis a 2 oed.
- Bydd ffocws ar gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy bob cam.
Gweithio gyda'n gilydd
Mae Llywodraeth Cymru yn deall yr angen i weithio'n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid i gydnabod cyfleoedd a heriau
Bydd cyflawni yn dibynnu ar gael y capasiti, y sgiliau a'r cymorth cywir yn eu lle i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel. Mae ymchwil a chasglu data ar y gweill ac mae Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau i gefnogi twf y gweithlu. Mewn partneriaeth gyda'r sector, byddant yn llunio Cynllun Gweithlu sy'n egluro sut fyddant yn cefnogi'r gweithlu gofal plant i dyfu a ffynnu.
Mae Claire Protheroe, Pennaeth Cytundebau a Phrosiectau ar gyfer Coram PACEY sy'n arwain y gwaith yng Nghymru, wedi dweud:
“Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill ar y gwaith sy'n gysylltiedig â ehangu'r gofal plant yng Nghymru. Rydyn ni'n parhau i dynnu sylw at faterion a datrysiadau posibl fel maen nhw'n codi. Rydym wedi cwrdd â'r Dirprwy Brif Weinidog ar hyn ym mis Mehefin a hefyd wedi cael gweithdy yn gynharach ym mis Gorffennaf a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru i bartneriaid Cwlwm a staff awdurdodau lleol. Rydym wedi bod yn glir, trwy ein gwaith lobïo, am yr angen i sicrhau bod unrhyw raglenni'n canolbwyntio ar blant. Rydym wedi rhannu, ac yn parhau i rannu, yr heriau mae goflwyr plant yn eu hwynebu'n benodol a'r angen iddynt fod yn rhan o'r broses wrth benderfynu'r cyfeiriad. Rydym eisiau rhoi sicrwydd i aelodau bod lleisiau gofalwyr plant yn cael eu clywed ar bob lefel. Rydyn ni'n gwybod bod angen cyfundrefn symlach i deuluoedd a darparwyr os yw'r estyniad i fod yn llwyddiant."
Gallwch glywed mwy am y cynlluniau yma