The Welsh Promise in practice / Yr Addewid Cymraeg ar waith
August 20, 2026
Coram PACEY Cymru as part of the Cwlwm consortia recognises the importance of developing the Welsh language and is proud of taking an active role in contributing to the Welsh Governments target of one million Welsh speakers by 2050.
We understand that starting out on a journey of working towards theActive Offercan be a daunting prospect, therefore,Cwlwm have developed a Welsh Promise journey especially for childcare and play settings.
In this blog Coram PACEY Cymru spoke to Sarah Blackmore, a childminder in RCT, about her Welsh Promise journey and the impact it has had on her practice and the children she cares for.
Why did you decide to do the Welsh Promise?
I had been attending the Welsh language support webinars with Coram PACEY Cymru for a few months, and the Welsh Promise had been mentioned. It sounded like a wonderful opportunity to develop my Welsh language further and promote it with the children that I look after daily, within my setting.
I am proud of being Welsh and what that means to us. We are a wonderful country, with a beautiful language, culture and heritage. I wanted to show what I am capable of and encourage the children to have a go at using the Welsh language.
What was your journey like?
The support from Coram PACEY Cymru was fantastic. At the first meeting, we explored current practices and use of Welsh, the six elements of the Welsh Promise and together we created an action plan, with short, medium and long-term goals. These were designed to build upon practice and ensure it became embedded into my setting.
I used the action plan to identify the tasks I needed to undertake and the evidence to show that the element had been achieved.
Monthly meetings on Teams were arranged, where we would discuss what was going well and where I needed to gather more evidence and ideas of things to explore and have a go at. Following the meeting, I would receive a review template so I could see what the criteria was for each part and what I needed to do. The great thing was I printed this off every month and would highlight and date what I had done. I would then send evidence over to Coram PACEY Cymru.
At the start of this year, I created a local myths and legends topic for my children, and we looked at those together. This captured interest with not only the children but their families who shared stories they had heard over the years.
What has changed within your setting?
Being involved with the Welsh Promise has changed the way I work because I am using the Welsh language a lot more than I was when I first opened. I’ve sourced some more resources, new nursery rhymes have been learnt, and they are sung during our songs and rhymes sessions. I am reading signs in Welsh and English now a lot better than I could before and I’m having a go at reading stories to the children in Welsh too. My Welsh pronunciation isn’t perfect, but I am trying.
I have created Welsh resources we use daily, for example, Welsh number flash cards. I use a magnetic calendar in Welsh daily to say the date, season and weather.
I adapted my Statement of Purpose to strengthen the use of Welsh within my setting, and I included that I have achieved my Bronze Welsh Promise for families to see.
The children and I like to use Welsh words during sessions from greetings, to counting to using the odd word just to name a few.
What has been the impact on the children and their families?
The response from parents has been really positive. Families are keen to see what we are doing and learning. They join in with greetings and saying goodbye, and the children are doing this too which is lovely. Families have said they are enjoying our Welsh word of the week and are trying this at home too. My Instagram posts are now bilingual, in Welsh as well as English, and I do have a family who likes to read them in Welsh.
Children who were reluctant to use Welsh are now having a go. We all ask for things in Welsh, for example 'ga i…….'. They are gaining more confidence and will ask me to have a look for what Welsh words are for things when we are out and about. We had a mini-beast topic and when we are on a mini beast hunt one child asked, 'what’s dragonfly in Welsh?' So, we googled it!
On a personal level, achieving the Welsh Promise and displaying the certificate, at the end allowed me to recognise and show others what I had achieved. I feel a bit more confident and I am keen to move onto Silver. I am proud to say I can speak some Welsh and being able to influence the children to feel that too. I recently had my inspection with CIW they were very impressed that I had achieved my bronze and were keen to put it in my report.
What advice would you give others who are thinking about doing the Welsh Promise?
Ask yourself one question 'What is it you want from this?'
Have a go and take your time, it is worth it. Make time to do things and look for resources. I have a young family myself, so when I finish for the day, I am back to being mum and partner, so I had to create times for me to look and complete tasks. I love working with children, I love that no two days are the same. The children do not care if you’re not perfect, they just want your time and your attention.
Set yourself small targets this could be two weeks counting 1 to five in Welsh or using colours. You don’t need to download loads of Welsh resources you can use your toys and find the Welsh names for them and call them it when the children are looking at them. You’re not alone and get supported by Coram Pacey throughout your journey.
How can I apply for, or learn more about, the Welsh Promise?
If you run a childcare setting in Wales and are a Coram PACEY member who is interested in expressing an interest in accessing the Welsh Promise you should complete the expression of interest form below and return by email to cymru@corampacey.org.uk. A member of the Coram PACEY Cymru team will then contact you to discuss further.
Mae Coram PACEY Cymru fel rhan ogonsortiaCwlwmyn cydnabod pwysigrwydd datblygu’r Gymraeg ac yn falch o gymryd rhan weithredol wrth gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Deallwnfod cychwyn ar daith o weithio tuag at yCynnigRhagweithiolyngallu bod yn arswydus, felly, mae Cwlwm wedi datblygu taith Addewid Cymru yn arbennig ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae.
Mae SarahBlackmoreynwarchodwrplantynRhCT. YmamaeCoram PACEY Cymru ynsiaradâ hi ameithaithAddewidCymraega'reffaithymaewedi'ichaelareihymarfera'rplant ymaehi'ngofaluamdanynt.
Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud yr Addewid Cymraeg?
Roeddwn i wedi bod yn mynychu'r gweminarau cymorth Cymraeg gyda Coram PACEY Cymru am ychydig fisoedd, ac roedden nhw wedi sôn am yr Addewid Cymraeg. Roedd yn swnio fel cyfle gwych i ddatblygu fy Nghymraeg ymhellach a'i hyrwyddo gyda'r plant rwy'n gofalu amdanynt bob dydd, o fewn fy lleoliad.
Rwy'n falch o fod yn Gymraes a'r hyn y mae'n ei olygu i ni. Mae gennym wlad ryfeddol, gydag iaith, diwylliant a threftadaeth hardd. Roeddwn i am ddangos beth rydw i'n gallu ei wneud ac annog y plant i roi cynnig ar ddefnyddio'r Gymraeg.
Sut beth oedd eich taith?
Roedd y cymorth gan Coram PACEY Cymru yn anhygoel. Yn y cyfarfod cyntaf, fe wnaethon ni archwilio arferion presennol a defnydd o'r Gymraeg, chwe elfen yr Addewid Cymraeg, a gyda'n gilydd fe wnaethon ni greu cynllun gweithredu, gyda nodau tymor byr, canolig a hir. Roedd y rhain wedi'u cynllunio i adeiladu ar ymarfer a sicrhau ei fod yn cael ei ymgorffori yn fy lleoliad.
Defnyddiais i'r cynllun gweithredu i nodi'r tasgau roedd angen i mi ymgymryd â nhw a'r dystiolaeth i ddangos bod yr elfen wedi cael ei chyflawni.
Trefnwyd cyfarfodd Teams misol, lle byddem yn trafod yr hyn a oedd yn mynd yn dda a ble roedd angen i mi gasglu rhagor o dystiolaeth a syniadau o bethau i'w harchwilio a rhoi cynnig arnynt. Ar ôl y cyfarfod, roeddwn i'n derbyn templed adolygiad er mwyn gallu gweld meini prawf pob rhan a'r hyn yr oedd angen i mi ei wneud. Y peth gwych oedd fy mod i'n argraffu hwn bob mis ac yn uwcholeuo ac yn dyddio'r hyn roeddwn i wedi'i wneud. Wedyn roeddwn i'n anfon tystiolaeth draw at Coram PACEY.
Ar ddechrau'r flwyddyn, creais i bwnc mythau a chwedlau lleol i fy mhlant, ac fe wnaethon ni edrych ar y rheini gyda'n gilydd. Denodd hyn ddiddordeb y plant ond hefyd eu teuluoedd a rannodd straeon yr oeddent wedi’u clywed dros y blynyddoedd.
Beth sydd wedi newid o fewn eich lleoliad?
Mae bod yn rhan o'r Addewid Cymraeg wedi newid y ffordd rwy'n gweithio oherwydd fy mod i'n defnyddio'r Gymraeg llawer mwy nag yr oeddwn i pan agorais gyntaf. Rydw i wedi dod o hyd i fwy adnoddau ac wedi dysgu hwiangerddi newydd sy'n cael eu canu yn ystod ein sesiynau caneuon a rhigymau. Rwy'n darllen arwyddion yn Gymraeg ac yn Saesneg yn llawer gwell bellach nag y gallwn o'r blaen, ac rwy'n rhoi cynnig ar ddarllen straeon i'r plant yn Gymraeg hefyd. Dydy fy ynganiad ddim yn berffaith, ond rwy'n rhoi cynnig arni.
Rydw i wedi creu adnoddau Cymraeg rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd, er enghraifft cardiau fflach rhifau Cymraeg, ac rwy'n defnyddio calendr magnetig Cymraeg bob dydd i ddweud y dyddiad, y tymor a'r tywydd.
Addasais fy Natganiad o Ddiben i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg yn fy lleoliad, ac fe wnes i gynnwys fy mod i wedi cyflawni fy Addewid Cymraeg Efydd i deuluoedd ei weld.
Mae'r plant a minnau'n hoffi defnyddio geiriau Cymraeg yn ystod sesiynau o gyfarchion, i gyfrif i ddefnyddio ambell air hwnt ac yma i enwi ond ychydig.ó €²ó €¢ó €¨ó €³
Mae'r ymateb gan rieni wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae teuluoedd yn awyddus i weld beth rydyn ni'n ei wneud a'i ddysgu. Maen nhw'n ymuno gyda chyfarchion a dweud hwyl fawr, ac mae'r plant yn gwneud hyn hefyd sy'n hyfryd. Mae teuluoedd wedi dweud eu bod nhw'n mwynhau ein gair Cymraeg yr wythnos a'u bod yn rhoi cynnig ar wneud hyn adref hefyd. Mae fy mhostiadau Instagram bellach yn ddwyieithog, yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg, ac mae gen i deulu sy'n hoffi eu darllen yn Gymraeg.
ó €°Ar lefel bersonol, roedd cyflawni'r Addewid Cymraeg ac arddangos y dystysgrif, ar y diwedd, yn caniatáu i mi gydnabod a dangos i eraill yr hyn a oedd gen i wedi'i gyflawni. Rwy'n teimlo ychydig yn fwy hyderus ac rwy'n awyddus i symud ymlaen i'r wobr Arian. Rwy'n falch o ddweud y gallaf siarad rhywfaint o Gymraeg a dylanwadu ar y plant i deimlo hynny hefyd. Cefais fy arolygiad gydag AGC yn ddiweddar, ac roedden nhw wedi'u plesio'n fawr fy mod wedi cyflawni fy ngwobr efydd ac yn awyddus i'w gynnwys yn fy adroddiad.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i eraill sy'n ystyried gwneud yr Addewid Cymraeg?
Gofynnwch un cwestiwn i chi'ch hun – 'Beth ydych chi eisiau ei gael o hyn?'
Rhowch gynnig arni a chymerwch eich amser, mae'n werth chweil. Gwnewch yr amser i wneud pethau a chwilio am adnoddau. Mae gen i deulu ifanc fy hun, felly pan fyddaf yn gorffen am y diwrnod, rwy'n ôl i fod yn fam ac yn bartner, felly roedd yn rhaid i mi greu amseroedd i edrych a chwblhau tasgau. Rwy'n dwlu ar weithio gyda phlant, rwy'n dwlu bod pob diwrnod yn wahanol. Does dim ots gan y plant os nad ydych chi'n berffaith, maen nhw ond eisiau eich amser a'ch sylw.
Gosodwch dargedau bach i'ch hun. Gallai hyn fod yn bythefnos yn cyfrif o un i bump yn Gymraeg neu'n defnyddio lliwiau. Does dim angen i chi lawrlwytho llwyth o adnoddau Cymraeg. Gallwch chi ddefnyddio'ch teganau a dod o hyd i'r enwau Cymraeg ar eu cyfer a'u defnyddio gyda'r plant.
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun a bydd Coram PACEY yn eich cefnogi ar bob cam o'r daith.
Sut gallaf wneud cais neu ddysgu mwy am yr Addewid Cymreig?
Os ydych chi’n rhedeg lleoliad gofal plant yng Nghymru ac yn aelod o Coram PACEY sydd am fynegi diddordeb mewn cael mynediad i’r Addewid Cymraeg, dylech lenwi’r ffurflen mynegi diddordeb isod a’i dychwelyd drwy e-bost at paceycymru@pacey.org.uk. Bydd aelod o dîm Coram PACEY Cymru wedyn yn cysylltu â chi i drafod ymhellach.