As part of Welsh Government’s continued work to take forward the recommendations of the Independent Review of Childminding, Welsh Government is aiming to better understand childminder perspectives and experiences of undertaking digital activities as part of their work.
To achieve this (with Coram PACEY Cymru support) Welsh Government has developed a Survey and is asking all registered childminders to complete by 7 September 2025.
This survey will ask about the sorts of digital activities undertaken, and how often.
It will also ask how a childminder feels about undertaking digital activities, their confidence levels and whether any support would help this element of their work.
The information collected through this survey will be used to inform policy direction in relation to childminders and their digital needs.
No personal information will be collected, and all responses will be treated as anonymous.
If you require assistance or would prefer to do this survey over the phone, contact Coram PACEY, either by phone: 02920 351407, or email: cymru@corampacey.org.uk.
If there are any other questions in relation to this survey, please contact: childcareandplayworkconsultation@gov.wales
Fel rhan o waith parhaus Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant, mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ddeall yn well safbwyntiau a phrofiadau gwarchodwyr plant o ymgymryd â gweithgareddau digidol fel rhan o'u gwaith.
I gyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Arolwg ac yn gofyn i'r holl warchodwyr plant cofrestredig gwblhau erbyn 7 Medi 2025.
Bydd yr arolwg hwn yn gofyn am y mathau o weithgareddau digidol a gynhelir, a pha mor aml.
Bydd hefyd yn gofyn sut mae gwarchodwr plant yn teimlo am ymgymryd â gweithgareddau digidol, eu lefelau hyder ac a fyddai unrhyw gymorth yn helpu'r elfen hon o'u gwaith.
Bydd y wybodaeth a gesglir trwy'r arolwg hwn yn cael ei defnyddio i lywio cyfeiriad polisi mewn perthynas â gwarchodwyr plant a'u hanghenion digidol.
Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chasglu a bydd pob ymateb yn cael ei drin fel dienw.
Os oes angen cymorth ar warchodwr plant neu os byddai'n well ganddo wneud yr arolwg hwn dros y ffôn, cysylltwch â Coram PACEY, naill ai dros y ffôn: 02920 351407, neu e-bost: cymru@corampacey.org.uk.
Os oes unrhyw gwestiynau eraill mewn perthynas â'r arolwg hwn, cysylltwch â: ymgynghoriadgofalplantagwaithchwarae@llyw.cymru.