Cymorth teuluol
Fel rhan o’n hymgyrch #LledrithGwarchodPlant, rydyn ni’n dathlu gwarchodwyr plant ledled Cymru a Lloegr drwy arddangos y gwahaniaeth anhygoel maen nhw’n ei wneud i blant, teuluoedd, a chymunedau lleol bob dydd. Yma mae Terri, gwarchodwr plant yng Nghymru yn rhannu ei stori ac yn myfyrio ar y ffyrdd arbennig y mae hi’n darparu cymorth i blant a’u teuluoedd.
Am ba hyd ydych chi wedi bod yn gweithio fel gwarchodwr plant a beth a’ch ysbrydolodd i ddechrau?Â
Rydw i wedi bod yn gweithio fel gwarchodwr plant ers mis Ebrill 2021, bron i 5 mlynedd. Cyfuniad o bethau daeth â fi i warchod plant. Roeddwn i wedi treulio 10 mlynedd gydag elusen i blant ag anghenion ychwanegol, ac yn hanfodol, eu teuluoedd yn Islington. Roedd lleoedd a oedd yn croesawu’r teulu cyfan yn brin ac roedden ni’n gymuned glos a chefnogol. Roeddwn i’n rhedeg yr ystafell chwarae ochr yn ochr â thîm anhygoel o therapyddion ac wedyn, cynlluniau gwyliau seibiannau byr. Dysgais i gymaint gan gynifer o bobl, gweithwyr proffesiynol, teuluoedd a phlant yn ystod fy amser yna a dechreuodd i ffurfio fy ethos a sut roeddwn i’n meddwl am Flynyddoedd Cynnar. Ni chymerais i lwybr traddodiadol i ofal plant, roedd e’n fwy o lwybr igam ogam, ac rydw i wedi bod yn ffodus i allu dewis a dethol o blith llwyth o syniadau a dulliau dros y blynyddoedd o waith chwarae i Ysgol Goedwig i dechnegau a ddysgais o wylio gwahanol therapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol, therapyddion cerddoriaeth, therapyddion cyfannol, athrawon arbenigol a llawer mwy. Mae’r dylanwadau hyn ar ddechrau fy ngyrfa yn golygu fod hunanlywodraeth a hyblygrwydd gwarchod plant yn fy nharo i i’r dim. Mae bron yn ollyngfa greadigol i bopeth rydw i wedi’i ddysgu. Mae’n gyfle i mi drosglwyddo popeth rwy’n angerddol amdano wrth i mi addasu, mireinio a dysgu’n gyson. Gallaf fod mor hyblyg ag sydd angen i mi fod i gefnogi pob plentyn sy’n cerdded trwy fy nrws. Mae gallu gweld plentyn a meddwl ‘ie, dw i’n gwybod beth sydd ei angen arnat ti’ yn deimlad gwych.
Beth sy’n gwneud gwarchodwyr plant yn arbennig yn y gefnogaeth rydych chi’n ei chynnig i blant a theuluoedd a’r perthnasoedd rydych chi’n eu meithrin?
"Oherwydd ein bod ni'n lleoliadau bach, mae'r gofal rydyn ni'n ei roi wedi'i deilwra ac yn bersonol ac rydyn ni'n dod i adnabod cymhlethdodau a manylion bywydau ein teuluoedd yn gyflym iawn. Rydyn ni'n dod i adnabod y plentyn ond hefyd eu huned deuluol lawn hefyd oherwydd eu bod yn estyniadau o fyd y plentyn. Yn drist iawn, weithiau mae colled fawr a phan fydd hynny'n digwydd rwy'n credu y byddai unrhyw warchodwr plant sydd wedi meithrin y cysylltiadau a'r perthnasoedd cryf hynny yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu."
Terri
Y llynedd, collodd un o’r plant yn fy ngofal ei fam-gu yn eithaf sydyn i salwch byr, menyw wych yr oeddwn wedi cael y pleser o ddod i’w hadnabod yn ystod casglu a gollwng. Yr hyn oedd bwysicaf yn y misoedd cyntaf hynny oedd gwneud beth bynnag oedd o fewn fy ngallu i’w helpu i fynd drwyddo. Doeddwn i ddim yn gallu ei wella, doeddwn i ddim yn gallu cymryd y boen i ffwrdd, ond gallwn i wneud yn siŵr bod gan y bachgen bach le sefydlog, rhagweladwy i fod tra bod ei deulu’n delio â’r helynt. I ddechrau roeddwn i’n gallu cynnig hyblygrwydd gyda’r nos fel nad oedd yn rhaid iddyn nhw boeni am apwyntiadau ysbyty. Os oedd gen i leoedd ad hoc pan oedd plant eraill yn sâl neu ar wylai, byddai’n dod i mewn ar y diwrnodau hynny. Rydw i’n cyfathrebu’n gyson â fy nheuluoedd ac roedd cael lluniau a fideos o beth roedden ni’n ei wneud, gan wybod yn sicr bod y plentyn yn ddiogel, yn cael ei garu a’i ofalu amdano, yn golygu un peth yn llai i feddwl amdano. Mae’n erchyll meddwl am orfod trefnu logisteg gofal plant wrth lywio galar, felly pan ddaeth yr amser, gwnes i bopeth yn fy ngallu, yn siarad â rhieni eraill i weld a allem symud dyddiau a chreu lle i fod yn hyblyg, gan gymryd drosodd a helpu i ystyried opsiynau gyda mam nes bod cynllun gennym yn y pen draw a bod gofal plant, o leiaf, wedi’i drefnu.
Sut ydych chi’n meithrin ymdeimlad o gymuned, cynhwysiant a chydberthynas i blant a’u teuluoedd?
Rwy’n meddwl yn y byd modern fod y ‘pentref diarhebol’ – a oedd unwaith yn cynnwys aelodau teulu cyfagos, cymunedau clos lle’r oedd plant yn symud yn rhydd rhwng cartrefi, a chyfeillgarwch lle’r oedd gofal plant yn gilyddol – yn llawer anos dod o hyd iddo. Mae llawer o deuluoedd bellach yn byw yn bellach o’u rhwydweithiau cymorth oherwydd gwaith neu dai mwy fforddiadwy. Mae neiniau a theidiau’n gweithio’n hwy, ac i lawer o aelwydydd, mae dau incwm bellach yn angenrheidrwydd yn hytrach na dewis. Yna roedd Covid-19 ac rydyn ni’n dal i weld effaith y cyfnod hwnnw o ynysu yn datblygu.
Rydw i bob amser wedi teimlo’n gryf am bwysigrwydd cymuned ac rydw i wedi chwilio’n fwriadol am ‘lwyth’ lle bynnag rydw i wedi bod, ac rydw i wedi dod o hyd i rwydwaith cymorth gwych yn y gymuned gwarchod plant. Rydyn ni’n ffynnu ar gysylltiadau cryf, rhywbeth y mae unrhyw un sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar yn ei wybod am ein plantos bach.
Mae pwysau rhianta modern yn ddwys, rydw i wedi teimlo hyn fy hun gan wnes i’r dewis i fagu fy mhlant tra bod fy ngŵr yn gweithio. Rwy’n ddiolchgar bod gwarchod plant wedi bod yn addas i’m sgiliau ac yn ddewis naturiol i mi oherwydd roedd dod yn warchodwr plant yn golygu nad oedd yn rhaid i mi ddewis rhwng bod yn bresennol i’m plant fy hun yn eu blynyddoedd ffurfiannol, a gweithio, a byddai llawer o’r arian wedi mynd tuag at ofal plant beth bynnag oherwydd nad oes gen i fynediad at ‘bentref’ gofal plant.
"Mae bod yn rhiant yn anodd, mae'n anodd teimlo barn gymdeithasol am ein dewis i weithio ai peidio, mae'n anodd ceisio llywio amser lle swm ENFAWR anochel o wybodaeth a barn ar sut i fagu eich plant i straffaglu drwyddo. Fel gwarchodwr plant, rwy'n ceisio creu pentref di-feirniadaeth lle gallwn ni fynegi ein teimladau, rhannu profiadau, straeon a gwybodaeth, rhoi gafael llaw, dathlu a chefnogi ein gilydd a gwneud y cyfan gyda'n gilydd."
Terri
Ar lefel ymarferol, rwy’n creu grwpiau WhatsApp i deuluoedd y mae eu plant yn mynychu ar yr un diwrnodau, gan roi cyfle i’r rhieni gysylltu. Mae llawer o hiwmor a llawenydd yn y grwpiau hynny. Mae gennym grŵp ar gyfer y lleoliad cyfan hefyd, gan helpu i feithrin ymdeimlad ehangach o berthyn. Rydw i bob amser yn ceisio gwneud amser ar ddiwedd y dydd, ac mae rhai o fy hoff eiliadau wedi bod yn eistedd allan ar y lawnt gyda theuluoedd yn ystod y misoedd goleuach, tra bod y plant yn chwarae a ninnau’n eistedd ac yn siarad.
Ym mha ffordd arall ydych chi’n darparu cymorth teuluol cyfannol sy’n mynd “y tu hwnt” i ddarpariaeth gofal plant?
Enghraifft dda iawn o hyn dros yr ychydig fisoedd diwethaf yw rhywbeth y mae mam a minnau yn ei alw’n “ein taith Pŵ”. Ar hyn o bryd rydym yn llywio ein ffordd trwy gyfnod o ddal pŵ a phryder a achoswyd gan brofiad pŵ anffodus a phoenus pan oedd y plentyn yn dysgu i ddefnyddio’r poti. Heb amheuaeth, mae wedi bod yn brofiad llawn straen i’r plentyn ac felly, wrth gwrs i’r teulu. Rydyn ni wedi gweithio, ac yn parhau i weithio, fel tîm gyda hiwmor, cariad, ‘jiraffod cymorth emosiynol’ a diagramau o mami a dadi yn gwneud pŵ (os mae’n helpu, mae’n helpu).
Drwy rwymedd, ymweliadau â meddygon, moddion gweithio ac anghysur mae ein sianeli cyfathrebu wedi aros yn hollol agored gyda galwadau ffôn, adroddiadau manwl, nodiadau llais (ar un adeg cafodd y swyddfa gyfan y pleser o glywed fy adroddiad balch dros ben am pŵ hapus, heb straen) ac wrth gwrs llawer iawn o ddiweddariadau am pŵ. Rydw i wedi cefnogi drwy ysgrifennu e-byst a chyfeirio at ERIC am gyngor, ac wrth gwrs drwy roi cefnogaeth emosiynol a sicrwydd i’r plentyn. Mae e’n hapus iawn ac wedi ymgartrefu yn fy lleoliad i ac mae gennym ni ymlyniad cryf sy’n hanfodol wrth lywio pryder ac anghysur.
Wrth siarad amdano yn gynharach, dywedodd Mam, ar ôl Dad, ei bod hi bob amser yn anfon neges ata i yn gyntaf am unrhyw beth sy’n gysylltiedig â pŵ oherwydd ei bod hi’n gwybod fy mod i wedi buddsoddi’n llwyr. Rwy’n ymwybodol iawn o faint o straen y mae wedi achosi i bawb ond rwy’n falch ein bod wedi gallu mynd ati fel tîm a chyda gonestrwydd, ymddiriedaeth ac ychydig o hiwmor.
"Gwybod eich bod wedi bod yn rhan o stori sawl teulu. Mae hynny'n teimlo'n hudolus i mi. Os ydych chi'n dewis gwarchodwr plant, rydych chi'n dewis gweithwyr proffesiynol medrus sy'n gwella ac yn dysgu'n barhaus. Eleni rydw i wedi cael O LEIAF un sesiwn o ddatblygiad proffesiynol yr wythnos, boed hynny'n sesiwn hyfforddi, fforwm neu gynhadledd, gan ychwanegu oriau ac oriau o ddysgu, ac rydw i'n gwybod nad fi yw'r unig un yn hyn o beth. Nid ydyn ni'n cael ein talu am yr amser hwn, rydyn ni'n ei wneud yn ystod ein nosweithiau a phenwythnosau, sy'n dangos ein hymrwymiad i'n teuluoedd a faint rydyn ni'n barod i'w roi i wneud yn siŵr bod plant yn cael y gorau yn eu blynyddoedd ffurfiannol, yn fy marn i."

