Cymorth ADY
Fel rhan o’n hymgyrch #LledrithGwarchodPlant, rydyn ni’n dathlu gwarchodwyr plant ledled Cymru a Lloegr drwy arddangos y gwahaniaeth anhygoel maen nhw’n ei wneud i blant, teuluoedd, a chymunedau lleol bob dydd. Yma, mae Llinos o Gymru yn rhannu ei stori ac yn adlewyrchu ar sut mae gwarchodwyr plant mewn sefyllfa unigryw i greu lledrith i blant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Am ba hyd ydych chi wedi bod yn gweithio fel gwarchodwr plant ac a allwch chi roi ychydig o wybodaeth am eich lleoliad?
Rwy’n warchodwr plant cofrestredig yn Sir Benfro. Yn yr 20 mlynedd ers i mi agor fy nrysau, rydw i wedi croesawu llawer o deuluoedd a’u plant i fy nghartref, gyda phob un ohonynt yn dod â heriau a phrofiadau newydd sydd wedi llunio’r ffordd rwy’n gweithio heddiw. Gallai hyn fod yn adnodd newydd i fodloni diddordeb plentyn, dysgu rhywbeth newydd er mwyn gallu bodloni anghenion y plentyn, neu herio fy ffordd o feddwl. Ond un peth nad yw wedi newid yw’r cariad, gofal a hwyl a roddwn i bob plentyn, drwy anturiaethau chwareus mewn amgylchedd meithringar lle mae pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn ac yn perthyn.
Sut mae’ch dull gwarchod plant yn diwallu anghenion plant ag ADY ac yn eu cefnogi i ffynnu?
Mae’r byd yn le hudolus i blant, ac fel gwarchodwyr plant rydym yn adeiladu ar greu’r lledrith – o greu profiadau newydd, anturiaethau a dilyn arweiniad y plentyn. Pwy sydd eisiau ymuno â ni ar fws llawn ungyrn, mwcïod ac eliffantod, neu adeiladu’r roced orau erioed a threulio’r diwrnod yn y gofod? Ond i rai plant ag ADY mae’r byd hudolus hwnnw yn edrych yn wahanol ac fel gwarchodwr plant mae’n rhaid i ni weithio ychydig yn galetach i ddeall sut olwg sydd ar le hudolus iddyn nhw.
"I blant ag ADY rwy'n credu fod yn rhaid i ni ddod yn rhan o'u byd nhw - nid oes rhaid iddyn nhw ffitio i mewn i'n byd ni."
Llinos
Sut ydych chi’n cefnogi plant ag ADY gyda’u dysgu a’u datblygiad?
Rydyn ni’n gwneud newidiadau bach yn ystod y dydd, i ganiatáu i’r holl blant fod yn rhan o bopeth a wnawn, ac mae gwneud hyn yn naturiol yn golygu nad oes unrhyw blentyn yn sefyll allan fel yn wahanol/ Mae’r plant yn ymwybodol bod rhai plant yn gwneud pethau’n wahanol, ond maen nhw’n dysgu derbyn ein bod ni i gyd yn wahanol. Bydd pob plentyn yn elwa o rai newidiadau ac mae’r rhain bellach yn rhan o’n trefn ddyddiol i bawb. Mae amser canu yn hoff ran o’r dydd i’r holl blant. Rydym wedi gwneud rhai addasiadau fel y gall bob plentyn elwa ohono. Rydyn ni’n defnyddio gwrthrych cyfeirio yn ogystal â chân i nodi ei fod yn amser canu, mae oedolyn yn eistedd o flaen bwrdd du i helpu plant i ganolbwyntio. Rydyn ni’n defnyddio canu gyda’n gilydd, gwrthrychau cyfeirio a lluniau ac rydyn ni’n defnyddio bwrdd dewis i ddewis cân a tharged Therapi Iaith a Lleferydd (SALT) ar gyfer plentyn.
Ar ôl amser canu bydd yr holl blant yn tynnu eu sanau ac yn cerdded dros y teils synhwyraidd. I rai plant mae’n amser i ddatblygu eu geirfa: pigog, llyfn, caled a meddal. I eraill, mae’n amser i ddysgu ble mae eu traed neu ddysgu i gydbwyso a cherdded ar wyneb anwastad. Yna, ar ôl golchi ein dwylo, mae’n amser cael byrbryd. Mae mat bwrdd du yn helpu plentyn sydd ag amhariad golwg i weld ei fwyd yn well, mae botwm ie/na yn caniatáu i bob plentyn ddweud a ydyn nhw eisiau afal, oren, cracers ac ati. Mae amser byrbryd hefyd yn amser da i wneud rhagor o therapi SALT ac ymarfer y gair ac arwydd ar gyfer “rhagor”. Mae rhan fwyaf y plant yn mwynhau’r gwahanol brofiadau synhwyraidd gan gynnwys amser tywydd synhwyraidd a chwarae anniben – rydyn ni’n ysgogi ac yn helpu plant i fod yn ymwybodol o’u synhwyrau. Nid oes yn rhaid bod hyn yn ddrud – rydyn ni’n defnyddio adnoddau sydd gennym ni yn y lleoliad eisoes (sgarffiau lliwgar, ffaniau, swigod, drychau na ellir eu torri a photeli synhwyraidd a bagiau ffa sy’n cynnwys gwahanol ddeunyddiau i archwilio synau ac aroglau yn ddiogel.) Rydyn ni hefyd wedi dod yn fwy ymwybodol drwy hyfforddiant a, sut gallwn ei gwneud hi’n haws i blant weld, drwy gael gwared ar lanast gweledol a defnyddio deunyddiau du.
Sut mae’r lleoliad yn y cartref yn caniatáu ar gyfer cymorth ychwanegol i blant ag anghenion mwy cymhleth?
I rai plant ag anghenion mwy cymhleth, mae angen ychydig mwy o gymorth gan oedolion arnynt i archwilio eu hamgylchedd a chysylltu ag eraill. Mae rhyngweithio dwys yn caniatáu i’r plentyn wybod ein bod yn eu gweld ac yn gwerthfawrogi eu cyfathrebu drwy dreulio amser gyda nhw, gan gopïo ac adlewyrchu’r hyn maen nhw’n ei wneud. Gall hyn ddigwydd unrhyw le ar unrhyw adeg. Rydw i wedi treulio misoedd yn archwilio ffens yr ardd ym mhob tywydd gydag un bachgen bach, ac yn araf bach des i’n rhan o’i fyd ef.
Mae TAPAC (cyfathrebu synhwyraidd gan ddefnyddio cyffyrddiad a cherddoriaeth) yn ffordd hyfryd arall o gyfathrebu gyda phlentyn, ac mae fy nghynorthwyydd wedi cael eiliadau hyfryd yn cysylltu â phlant drwy gerddoriaeth a chyffyrddiad, gyda phob plentyn yn mwynhau’r profiad yn ei ffordd ei hun. Mae blychau chwilfrydedd ac amser bwced yn ffordd dda i’r plant ddysgu eistedd a thalu sylw mewn ffordd hwyliog ac ymgysylltu ag adnoddau.
Mae gan rhai plant anghenion meddygol sydd angen cynlluniau gofal, asesiadau risg neu rywfaint o hyfforddiant. Er enghraifft, dechreuodd un ferch fach gael ffitiau, felly gwnaethon ni i gyd gwrs ar-lein i wella ein dealltwriaeth, creu asesiad risg a gweithio gyda’r rhieni i greu cynllun gofal.
"Gyda chynllunio gofalus, asesiadau risg, ac weithiau meddwl y tu allan i'r blwch, gall pob plentyn deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, bod yn rhan o'n teulu gwarchod plant a bod ag ymdeimlad o berthyn. "
Llinos
Sut mae’r cysondeb gofal y mae gwarchodwyr plant yn ei ddarparu yn helpu i gefnogi plant gydag ADY?
Fel lleoliad bach, mae’r holl staff yn adnabod y plant yn dda iawn. Mae mor bwysig bod y drefn ddyddiol yn aros yn gyson, fel bod plant yn gwybod beth i’w ddisgwyl, a bod gofal yn aros yr un peth hefyd – o’r ffordd rydyn ni’n eu cyfarch wrth y drws, trefn amser bwyd, neu drefnau gofal personol. Mae rhai plant yn hollol ddibynnol ar oedolyn ar gyfer gofal personol, fel mae’n bwysig bod yr oedolyn yn gyfarwydd â’u trefn gofal unigol i roi rheolaeth ac urddas iddynt. Gall gymryd misoedd o ymyriadau a therapi cyn gweld canlyniadau. Er enghraifft, gweithiais i gyda phlentyn bach mewn sesiynau yn modelu ac yn gwneud cymorth llaw dros law i ddysgu’r arwydd a’r gair “rhagor”. Roedd yn deimlad gwych pan ddechreuodd wneud yr arwydd a hyd yn oed dweud y gair, gan ddangos pwysigrwydd dull cyson a dyfalbarhad.
Sut ydych chi’n darparu cymorth teuluol cyfannol i deuluoedd pant ag ADY?
Fel gwarchodwr plant, rydyn ni’n dod i adnabod teuluoedd yn ogystal â’u plentyn. Rydyn ni’n rhannu’r amseroedd gwell a gwaeth, yn cael sgyrsiau anodd ac rydyn ni yno i drafod pethau neu roi cyngor. Mae bob amser yn well gen i os yw rhiant yn cysylltu yn hytrach na’n cael trafferth ar eu pen eu hun oherwydd os yw rhieni’n hapus ac yn cael eu cefnogi, bydd hynny’n sicrhau bod y plentyn yn teimlo’n ddiogel. Mae’n bwysig cofio ein bod ni fel gwarchodwyr plant wedi bod ar y llwybr hwn o’r blaen, ond yn aml i rieni dyma’u profiad cyntaf o ADY. Mae’n bwysig cadw’n gadarnhaol wrth siarad â rhieni a rhannu’r eiliadau bach hudolus a’r cynnydd, ni waeth pa mor fawr neu fach. Un o fanteision lluosog gwarchod plant yw ein bod yn gallu cynnig hyblygrwydd i ofalu am blant y tu allan i oriau gwaith fel y gall rhieni a brodyr a chwiorydd gael rywfaint o seibiant gan wybod bod eu plentyn yn ddiogel ac yn hapus.
Rydyn ni hefyd wedi cael cefnogaeth dda gan weithwyr proffesiynol eraill – i mi mae’r rhain yn cynnwys CADY’r Sir, Cynorthwyydd Blynyddoedd Cynnar, therapydd SALT a’u cynorthwywyr, ac athrawon i’r rhai sydd ag amhariad golwg. Os oes angen cymorth neu adnodd arnom ni, maen nhw ar ochr arall y ffôn neu e-bost. Mae bod â pherthynas gwaith da â lleoliadau eraill hefyd yn bwysig. Rydyn ni’n cefnogi’r plant pan fyddant yn symud i’r ysgol gydag ymweliadau pontio ac mae rhannu gwybodaeth mewn cyfarfod pontio yn gwneud y broses mor llyfn â phosib. Rydyn ni hefyd yn mynychu cyfarfodydd lle byddwn yn eirioli dros y plentyn ac yn trafod eu heriau a’r pethau sy’n gweithio’n dda iddyn nhw.
Ydych chi’n credu bod unrhyw gamsyniadau gan rieni neu’r cyhoedd yn gyffredinol ynglÅ·n â gwarchod plant o ran ADY ac anghenion sy’n dod i’r amlwg?
Mae llawer o gamsyniadau am warchod plant. Yn aml, nid ydym yn cael ein hystyried yn gyfartal â gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar eraill nac yn cael yr un cyfleoedd. Ond mae pob gweithiwr proffesiynol allanol rydw i wedi gweithio â nhw wedi bod yn gefnogol iawn ac yn sôn am fanteision yr amgylchedd cartref oddi cartref rwy’n ei gynnig pan fyddant yn ymweld. Rwy’n meddwl mai cyfrifoldeb gwarchodwyr plant yw herio unrhyw gamsyniadau ac eirioli dros ein proffesiwn.
Beth mae Lledrith Gwarchod Plant yn ei olygu i chi?
Rydyn ni i gyd yn gweithio yn ein swigod bach ein hun fel gwarchodwyr plant, ond mae llinyn anweledig yn ein cysylltu ni i gyd pan fyddwn yn cwrdd, boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb.
"Fel yn achos pob plentyn, mae plant ag ADY yn creu eu lledrith eu hun ac yn ein gadael gydag atgofion arbennig - pa mor hapus oedd bachgen bach yn chwarae gydag eira ewyn eillio neu'r llawenydd ar wyneb un arall wrth ddringo'r ysgol i frig y tŷ bach twt (mae'n rhaid i ni ganiatáu plant ag ADY i gymryd risgiau, yr un fath ag unrhyw blentyn arall). Gallai'r lledrith fod yn rhyngweithiad, yn wên fyrhoedlog, y ffordd mae plant arall yn gweiddi "dere 'mlaen" pan fydd pawb yn chwarae gêm a gwneud yn siŵr bod pawb yn rhan ohono."
Llinos
Geirda rhiant plentyn sy’n mynychu lleoliad Llinos
I ddechrau roedden ni’n teimlo’n nerfus iawn ynghylch gadael ein plentyn ag ADY gyda gwarchodwr plant, oherwydd ei anghenion cymhleth a’i anhawster wrth fynegi ei hun. Ond tawelwyd ein meddyliau’n gyflym gan gymhwysedd Llinos gyda phlant ag ADY a’r gefnogaeth wych a gawsom ganddi. Cafodd ein mab gyfnod pontio araf, hyfryd ac addasedig i’r lleoliad, doedden ni erioed yn teimlo ein bod ni’n cael ein brysio. Roedd bob amser cymwysiadau rhagorol i’w anghenion unigryw ef, a ni fel teulu. Er bod fy mab yn ddieiriau, mae ei wên hapus wrth gyfarch Llinos a Beth wrth y drws i ddechrau’r diwrnod yn arwydd clir o sut mae’n teimlo yno.
Mae ein plentyn wedi elwa’n aruthrol o fod yn lleoliad Llinos. Mae’n rhan o’r teulu yno. Er bod ei anghenion unigryw yn cael eu diwallu, mae’n cael ei drin â’r un gofal, llawenydd a hyder ag unrhyw blentyn arall. Yn aml, rwy’n cael anhawster defnyddio’r gair ‘cynhwysol’ gan nad yw llawer o leoedd/mannau sy’n dweud hyn yn aml yn gynhwysol. Fodd bynnag, gallaf wir ddweud fod y lleoliad gwarchodwr plant wedi golygu y gallai ein plentyn ffitio i mewn a theimlo’n rhan o’r gymuned leol. Gwarchodwyr plant yw asgwrn cefn ein cymunedau lleol, gan roi’r hyder i rieni ddychwelyd i’r gwaith, gan wybod bod eu plentyn yn gwneud ffrindiau oes mewn lleoliad teuluol. Mae gwarchodwyr plant sy’n derbyn plant ag ADY yn golygu bod y plentyn yn adnabyddus yn y gymuned ac mae’n rhoi’r potensial i’r anabledd gael ei weld heb unrhyw stigma, yn union fel y mae yn nheulu’r plentyn ei hun. Mae llawer o fanteision i blant ag ADY a phlant yn gyffredinol mewn lleoliad gwarchodwr plant.

