As part of Social Care Wales’ Well-being Week 2026, Coram PACEY Cymru spoke to childminder, Terri Steele, about the importance of wellbeing when working in home- based childcare.

What aspects of your role do you feel positively impact your wellbeing?
There is a huge amount of joy and meaning in the relationships I build with the children. I see first hand how secure attachments help children thrive, and being part of that process gives me purpose. Forest School, gardening, and being outdoors all support my own wellbeing too - I’m calmer outdoors, and connecting children with nature brings me back to myself.
I also love the autonomy of childminding. I can shape my practice around my values, build strong bonds with families, and create environments that are meaningful to me and the children. When things are going well, this work gives me a sense of identity, competence, and belonging.
What aspects of your role negatively impact your wellbeing?
Childminding holds a constant tension: being warm, nurturing, and open-hearted, while also needing to switch immediately into professional mode when you need to stand your ground. That dissonance can be exhausting. Professionalism becomes a kind of armour. I fall back on policy and legislation so parents can see the necessity in some of my decisions.
There’s also the emotional load. We create strong bonds quickly, which means we also feel the hurt deeply when families leave unexpectedly, choose cheaper settings, or when children move on. And of course, grief is woven through the job — grief when children leave, grief when relationships change, and sadly in my case, grief when a child dies. Losing a child in my care was life-altering. I didn’t take time off, even though I was falling apart, because the sense of duty to the family, the sibling I still cared for, and my other families felt immovable. I wasn’t even sure I had the right to grieve as “just the childminder” despite the unquestionable intensity of the sadness and pain.
The job has no off switch. My home is my workplace, and I rely on boundaries like an 8.30pm cut-off of ‘no more work’ to signal the end of the day. Even then, messages and mental load spill over.
There is also a tension between connection and documentation — being present with the children while also keeping up with evidencing and planning. I now do my observations retrospectively, but that creates unpaid evening work.
And then there’s the loneliness of being a lone worker. No shared debrief, no team, no one to step in when you’re struggling. Every decision is yours, and so are the consequences.
What do you do to support your wellbeing?
My well-being support has changed a lot over time. After the loss of the child I cared for, I stripped life back to the bare minimum out of necessity. I simply couldn't function at anywhere near full capacity. I worked, and then I went to bed. Weekends were often spent in bed. I had intense brain fog and emotional exhaustion. I could only manage tiny, essential tasks.
But that period taught me a huge lesson: even when I dropped everything, nothing fell apart. It showed me that a lot of the pressure I carry is unnecessary and self-created.
My horse and my garden became grounding rituals — quiet, gentle spaces where I didn’t have to perform or think too hard. Pottering, riding up the lane, I just did the tiniest bits of what I could manage and gradually, over time and in increments, I could do more.
Now, I support my wellbeing by:
- Riding, gardening, Forest School, walking, and being outdoors
- Knitting and creative hobbies that give me permission to sit still whilst still using my hands
- Counselling. I’ve experienced so much counselling now it doesn’t feel scary or taboo and I can ‘top up’ when needed
- Talking — processing aloud is one of my biggest tools
- Writing down what I’ve done so I have visual evidence of “enoughness”
- Laughing — finding humour in the job and sharing funny moments with parents helps keep things light
- Creating small, manageable pockets of community
- I avoid the big Facebook childminding forums because they overwhelm me
- Coram PACEY forums remind me I’m not alone professionally
- The Penpals project gives me fun, humour, and lightness
- My supportive Instagram engagement group gives me a place to share wins, worries, and ask for a hand hold when needed
How do you prioritise your wellbeing?
Most of the time, prioritising my wellbeing looks like lowering the bar. Learning what matters and what can wait. Letting go of perfectionism. Accepting I have fluctuating capacity.
I have boundaries that protect me:
- an 8.30pm work tasks cut-off
- intentional rituals to signal the end of the workday
- Being clear that there are times I won’t be replying instantly to messages
- choosing rest on difficult days
- reminding myself that children don’t need elaborate setups, they need connection
And most importantly, I honour the fact that “enough” feels different every day.
What advice would you give someone who feels their wellbeing is being negatively impacted?
Strip everything back to the basics and allow yourself to be human. Don’t be afraid of counselling — use it early, not as a last resort. Build small communities that feel manageable, even if it’s just a handful of trusted people. And recognise that grief, exhaustion, and overwhelm are not failures — they’re part of being a human doing a very human job.
Further information
Fel rhan o Wythnos Llesiant 2026 Gofal Cymdeithasol Cymru, bu Coram PACEY Cymru'n siarad â'r gwarchodwr plant Terri Steele am bwysigrwydd llesiant wrth weithio ym maes gofal plant yn y cartref.

Pa agweddau ar eich rôl sy'n cael effaith gadarnhaol ar eich llesiant yn eich barn chi?
Mae llawer iawn o lawenydd ac ystyr yn y perthnasau rwy'n eu meithrin â'r plant. Rwy'n gweld yn uniongyrchol sut mae ymlyniadau diogel yn helpu plant i ffynnu, ac mae bod yn rhan o'r broses honno yn rhoi pwrpas i fi. Mae'r Ysgol Goedwig, garddio, a bod yn yr awyr agored i gyd yn cefnogi fy llesiant i hefyd - rwy'n dawelach yn yr awyr agored, ac mae cysylltu plant â byd natur yn dod â fi'n ôl ataf fi fy hun.
Rydw hefyd yn dwli ar annibyniaeth gwarchod plant. Gallaf lunio fy ymarfer o amgylch fy ngwerthoedd, meithrin perthnasau cryf â theuluoedd, a chreu amgylcheddau sy'n ystyrlon i fi a'r plant. Pan fydd pethau'n mynd yn dda, mae'r gwaith hwn yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth, cymhwysedd, a pherthyn i mi.
Pa agweddau ar eich rôl sy'n cael effaith negyddol ar eich llesiant?
Mae tensiwn cyson mewn gwarchod plant: bod yn gynnes ac yn feithringar gyda chalon agored, ond gorfod newid ar unwaith i'r modd proffesiynol pan fydd angen sefyll eich tir. Gall yr anghytgord hwnnw fod yn llafurus. Mae proffesiynoldeb yn dod yn fath o arfwisg. Rwy'n troi at bolisi a deddfwriaeth fel y gall rhieni weld yr angenrheidrwydd mewn rhai o fy mhenderfyniadau.
Mae'r llwyth emosiynol hefyd. Rydyn ni'n creu cysylltiadau cryf yn gyflym, sy'n golygu ein bod hefyd yn teimlo'r boen yn ddwfn pan fydd teuluoedd yn gadael yn annisgwyl, yn dewis lleoliadau rhatach, neu pan fydd plant yn symud ymlaen. Ac wrth gwrs, mae galar wedi'i blethu drwy’r swydd — galar pan fydd plant yn gadael, galar pan fydd perthnasoedd yn newid, ac yn drist iawn yn fy achos i, galar pan fydd plentyn yn marw. Newidiodd colli plentyn yn fy ngofal fy mywyd. Chymerais i ddim amser i fwrdd, er fy mod i'n racs, oherwydd bod yr ymdeimlad o ddyletswydd i'r teulu, eu plentyn arall roeddwn i'n dal i ofalu amdano, ac i fy nheuluoedd eraill yn teimlo'n ansymudol. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn siŵr bod gen i'r hawl i alaru fel "dim ond y gwarchodwr plant" er gwaethaf dwyster diamau'r tristwch a'r boen.
Nid oes switsh diffodd ar gyfer y swydd hon. Fy nghartref yw fy ngweithle ac rwy'n dibynnu ar ffiniau fel torbwynt o 8.30pm i beidio â gweithio rhagor i nodi diwedd y dydd. Hyd yn oed wedyn, mae negeseuon a'r llwyth meddyliol yn gorlifo.
Mae tensiwn hefyd rhwng cysylltiad a dogfennaeth — bod yn bresennol gyda'r plant a hefyd cadw'n gyfredol â thystiolaethu a chynllunio. Rwy bellach yn gwneud fy arsylwadau o edrych yn ôl, ond mae hynny'n creu gwaith di-dâl gyda'r hwyr.
Ac wedyn mae unigrwydd gweithio ar fy mhen fy hun. Dim cyfarfodydd, dim tîm, neb i gamu i'r adwy pan fyddwch yn ei chael hi'n anodd. Chi sy'n berchen ar bob penderfyniad, ac felly'r canlyniadau.
Beth ydych chi'n ei wneud i gefnogi'ch llesiant?
Mae fy nghymorth llesiant wedi newid llawer dros amser. Ar ôl colli'r plentyn roeddwn i'n gofalu amdano, stripiais i fy mywyd i'r pethau mwyaf sylfaenol allan o reidrwydd. Doeddwn i'n methu gweithio'n agos at fy nghapasiti llawn. Roeddwn i'n gweithio, ac yna'n mynd i'r gwely. Roeddwn i'n aml yn treulio penwythnosau yn y gwely. Roedd gen i feddwl pŵl dwys a blinder emosiynol. Dim ond tasgau bach, hanfodol oeddwn i'n gallu ymdopi â nhw.
Ond dysgodd y cyfnod hwnnw wers enfawr i fi: hyd yn oed pan ollyngais bopeth, ni syrthiodd pethau'n ddarnau. Dangosodd i fi bod llawer o'r pwysau rwy'n ei gario yn ddiangen ac wedi'i greu gennyf fi fy hun.
Daeth fy ngheffyl a fy ngardd yn ddefodau sefydlu — mannau tawel, tirion lle nad oedd yn rhaid i mi berfformio na meddwl yn rhy galed. Potsian, marchog i fyny'r lôn, gwnes i'r darnau lleiaf o'r hyn y gallwn i ei reoli ac yn raddol, dros amser ac mewn cynyddrannau, gallwn i wneud mwy.
Bellach, rwy'n cefnogi fy llesiant drwy:
- Marchog, garddio, Ysgol Goedwig, cerdded, a bod yn yr awyr agored
- Gweu a hobïau creadigol sy'n caniatáu i fi eistedd yn llonydd wrth ddefnyddio fy nwylo o hyd
- Cwnsela. Rydw i wedi profi gymaint o gwnsela bellach nid yw'n teimlo'n frawychus mwyaf, a gallaf ychwanegu ato pan fydd angen
- Siarad — prosesu ar lafar yw un o fy offer mwyaf
- Ysgrifennu'r hyn rydw i wedi'i wneud fel bod gennyf dystiolaeth weledol o "ddigonoldeb"
- Chwerthin — mae dod o hyd i hiwmor yn y swydd a rhannu eiliadau doniol gyda rhieni'n cadw pethau'n ysgafn
- Creu pocedi bach, hydrin o gymuned
- Rwy'n osgoi'r fforymau gwarchod plant mawr ar Facebook oherwydd ei bod nhw'n ormod i fi
- Mae fforymau Coram PACEY yn fy atgoffa nad ydw i ar fy mhen fy hun yn broffesiynol
- Mae'r prosiect Cyfeillion gohebol yn rhoi hwyl, hiwmor ac ysgafnder i mi
- Mae fy ngrŵp ymgysylltu cefnogol ar Instagram yn rhoi lle i mi rannu llwyddiannau, pryderon, a gofyn am rywun i ddal fy llaw pan fydd ei angen arnaf
Sut ydych chi'n blaenoriaethu eich llesiant?
Y rhan fwyaf o'r amser, mae blaenoriaethu fy llesiant yn golygu gostwng fy nisgwyliadau. Dysgu beth sy'n bwysig a beth all aros. Gadael fynd o berffeithiaeth. Derbyn bod gennyf gapasiti newidiol.
Mae gennyf ffiniau sy'n fy amddiffyn:
- peidio â gweithio ar ôl 8:30pm
- defodau bwriadol i nodi diwedd y diwrnod gwaith
- Bod yn glir y bydd amseroedd pan na fyddaf yn ymateb i negeseuon ar unwaith
- dewis gorffwys ar ddiwrnodau anodd
- atgoffa fy hun nad oes angen trefniadau cymhleth ar blant, cysylltiad sydd ei angen arnynt
Ac yn bwysicaf oll, rwy'n anrhydeddu'r faith bod "digon" yn teimlo'n wahanol bob dydd.
Pa gyngor fyddech chi'n eu rhoi i rywun sy'n teimlo bod eu llesiant yn cael ei effeithio mewn ffordd negyddol?
Stripio popeth yn ôl i'r pethau mwyaf sylfaenol a chaniatáu i chi'ch hun fod yn ddynol. Peidio ag ofni cwnsela — defnyddiwch e'n gynnar, nid pan fetho popeth arall. Adeiladwch gymunedau bach sy'n teimlo'n hydrin, hyd yn oes os mai dim ond llond llaw o bobl rydych yn ymddiried ynddynt yw hynny. A chydnabod nad methiannau yw galar, blinder, a gorlethu — maen nhw'n rhan o fod yn fod dynol sy'n gwneud swydd ddynol iawn.
Gwybodaeth bellach