
As part of Social Care Wales’ Well-being Week 2026, Coram PACEY Cymru spoke to childminder, Alison Burt-Ryan, about the importance of wellbeing when working in home-based childcare. Alison attended a series of Mental Health and Wellbeing sessions funded by SCW and designed to support childminders in building a toolkit of techniques and resources to support their wellbeing.
What aspect of your role do you feel positively impact your wellbeing?
What positively impacts my wellbeing is the combination of meaningful connections with the children, the variety in my daily responsibilities and the sense of purpose that comes from helping children I care for to learn, grow, and feel loved and cared for.
What aspects of your role do you feel negatively impact your wellbeing?
The aspect of my role that negatively impacts my wellbeing is feeling undervalued. I work extremely hard, yet low ratios, low funding, and financial pressures mean that I often do not even cover minimum wage. This can leave me feeling under-appreciated despite the level of care, education, and support I provide. Through the course, I’ve recognised the ‘inner parrot’ in my head that reinforces these feelings, and I am working on noticing and challenging that self-talk. Although these challenges affect my wellbeing. My dedication to the families and, most of all, the children I have the privilege to care for keeps me going. I remain hopeful for positive change and for the outcomes of the childminding review and consultations.
What do you do to support your wellbeing?
To support my wellbeing, I regularly use the techniques I’ve learned, such as controlled breathing and recognising the difference between what I can and cannot control. These practices help me manage stress and maintain perspective. I use them particularly during challenging moments, to keep myself grounded and balanced.
I prioritise my wellbeing by recognising that I need to look after myself in order to be at my best for the children and families I support. I make time for myself when I need it and focus on activities that help me recharge, such as exercising, walking my dog, and spending time socialising with a coffee and a good laugh. These moments help boost my mood and keep me smiling and feeling jolly.
What advice would you give someone who feels their wellbeing is being negatively impacted?
If someone feels their wellbeing is being negatively impacted, I would encourage them to reach out and talk about how they’re feeling. I would share some of the strategies I’ve learned and suggest they consider attending a wellbeing or mental health course, as it can provide practical tools and reassurance. If things feel overwhelming, I would also advise seeking professional help, as speaking to a trained professional can make a real difference.
What did you take away from the Mental health and wellbeing toolkit sessions funded by Social Care Wales and hosted by Coram PACEY?
From the Mental Health and Wellbeing Toolkit sessions, I took away several valuable insights. The most helpful tool for me has been learning to recognise what I can control and what I cannot, which helps me manage my stress and stay grounded. I also became more aware of my ‘Poison Parrot’—the unhelpful inner voice that talks rubbish at me—and I’m now better at challenging it. Another important takeaway was the reminder to remain polite and composed, even when I don’t agree, and to use breathing techniques when I need to step away and reset. These tools have become very useful and will stay with me when the childminding review consultation is out.
Further information

Fel rhan o Wythnos Llesiant 2026 Gofal Cymdeithasol Cymru, bu Coram PACEY Cymru'n siarad â'r gwarchodwr plant Alison Burt-Ryan am bwysigrwydd llesiant wrth weithio ym maes gofal plant yn y cartref. Mynychodd Alison gyfres o sesiynau ar Iechyd Meddwl a Llesiant wedi'i hariannu gan GCC ac wedi'u cynllunio i gefnogi gwarchodwr plant i adeiladu pecyn cymorth o dechnegau ac adnoddau i gefnogi'u llesiant.
Pa agweddau ar eich rôl sy'n cael effaith gadarnhaol ar eich llesiant yn eich barn chi?
Yr hyn sy'n cael effaith gadarnhaol ar fy llesiant yw'r cyfuniad o gysylltiadau ystyrlon â'r plant, yr amrywiaeth yn fy nghyfrifoldebau o ddydd i ddydd a'r ymdeimlad o bwrpas sy'n deillio o helpu'r plant rwy'n gofalu amdanynt i ddysgu, i dyfu, ac i deimlo cariad a gofal.
Pa agweddau ar eich rôl sy'n cael effaith negyddol ar eich llesiant yn eich barn chi?
Yr agwedd ar fy rôl sy'n cael effaith negyddol yw teimlo nad wyf yn cael fy ngwerthfawrogi. Rwy'n gweithio'n galed dros ben, ac eto mae cymarebau isel, cyllid isel, a phwysau ariannol yn golygu yn aml ni fyddaf hyd yn oed yn ennill yr isafswm cyflog. Gall hyn fy ngadael yn teimlo nad wyf yn cael fy ngwerthfawrogi digon, er gwaethaf lefel y gofal, yr addysg, a'r gefnogaeth rwy'n ei darparu. Drwy'r cwrs, rydw i wedi dod i adnabod y 'parot mewnol' sydd gennyf yn fy mhen sy'n atgyfnerthu'r teimladau hynny, ac rwy'n gweithio ar sylwi ar a herio'r math hynny o siarad am fy hun. Er bod yr heriau hyn yn effeithio ar fy llesiant, mae fy ymrwymiad i'r teuluoedd ac, yn bennaf oll, y plant mae gennyf y fraint o ofalu amdanynt yn fy nghadw i fynd. Rwy'n obeithiol o hyd y bydd newid cadarnhaol ac am ddeilliannau'r adolygiad ac ymgynghoriadau gofal plant.
Beth ydych chi'n ei wneud i gefnogi'ch llesiant?
I gefnogi fy llesiant, rwy'n defnyddio'r technegau rydw i wedi'u dysgu yn rheolaidd, megis anadlu dan reolaeth ac adnabod y gwahaniaeth rhwng yr hyn y gallaf a'r hyn na allaf ei reoli. Mae'r arferion hyn yn fy helpu i reoli straen a chadw persbectif. Rwy'n eu defnyddio nhw'n benodol yn ystod adegau heriol, i gadw fy hun yn sefydlog ac yn gytbwys.
Rwy'n blaenoriaethu fy llesiant drwy gydnabod bod angen i fi ofalu amdanaf fi fy hun i fod ar fy ngorau i'r plant a'r teuluoedd rwy'n eu cefnogi. Rwy'n gwneud amser i mi fy hun pan fydd ei angen arnaf ac yn canolbwyntio ar weithgareddau sy'n fy helpu i ailwefru, megis ymarfer corff, mynd â'r ci am dro, a threulio amser yn cymdeithasu gyda choffi a hwyl. Mae'r adegau hyn yn rhoi hwb i fy hwyliau a fy nghadw i wenu a theimlo'n llon.
Pa gyngor fyddech chi'n eu rhoi i rywun sy'n teimlo bod eu llesiant yn cael ei effeithio mewn ffordd negyddol?
Os yw rhywun yn teimlo bod eu llesiant yn cael ei effeithio mewn ffordd negyddol, byddwn i'n eu hannog i gysylltu a siarad am sut maen nhw'n teimlo. Byddwn i'n rhannu rhai o'r strategaethau rydw i wedi'u dysgu ac awgrymu eu bod yn ystyried mynychu cwrs ar lesiant neu iechyd meddwl, gan y gall ddarparu offer ymarferol a thawelwch meddwl. Os yw pethau'n teimlo'n llethol, byddwn i hefyd yn cynghori ceisio cymorth proffesiynol, oherwydd gall siarad â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig wneud gwahaniaeth mawr.
Beth gawsoch chi o'r sesiynau pecyn cymorth iechyd meddwl a llesiant a ariannwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac a gynhaliwyd gan Coram PACEY?
O'r sesiynau Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant, cefais lawer o fewnwelediadau gwerthfawr. Yr offeryn mwyaf defnyddiol i fi oedd dysgu i adnabod yr hyn y gallaf a'r hyn na allaf ei reoli, sy'n fy helpu i reoli fy straen ac aros yn sefydlog. Des i hefyd yn fwy ymwybodol hefyd o fy ‘Parot Gwenwynig’—y llais mewnol di-gymorth sy’n siarad rwtsh wrthaf i—ac rydw i bellach yn well am ei herio. Peth arall pwysig y dysgais i oedd cofio i aros yn gwrtais ac yn ddigynnwrf, hyd yn oed pan na fyddaf yn cytuno, ac i ddefnyddio technegau anadlu pan fydd angen camu i ffwrdd ac ailddechrau. Mae'r offer hyn wedi dod yn ddefnyddiol iawn a byddant yn aros gyda fi pan fydd yr adolygiad gwarchod plant yn cael ei gyhoeddi.
Gwybodaeth bellach