Development grant in Wales/Grant datblygu yng Nghymru 

Grant datblygu yng Nghymru 

Gyda diolch i rodd gan Moondance a chyllid Llywodraeth Cymru, bydd gwarchodwyr plant, cynorthwyydd gwarchodwyr plant, nani cymeradwy, gweithiwr meithrinfa neu reolwyr meithrinfa yng Nghymru sy’n sy’n ymuno â Coram PACEY neu’n adnewyddu eu haelodaeth rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 yn cael cyfle i wneud cais am grant i gefnogi cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)/hyfforddiant yn ogystal â’r cynllun grantiau bach ehangach a gynigir. 

Mae Coram PACEY Cymru hefyd yn cynnig gostyngiad ar aelodaeth i aelodau cymwys yng Nghymru o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026.   

Ar gyfer gwarchodwyr plant sy’n aelodau, bydd hyn yn werth hyd at £350. 

Ar gyfer aelodau nani gwarchodwyr plant, cynorthwyydd gwarchodwyr plant, a gweithiwr meithrinfa a rheolwyr bydd hyn yn werth at £150

Gwybodaeth grant

Nod y grant yw cefnogi aelodau Coram PACEY cymwys â chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus/hyfforddiant sy’n cefnogi eu hymarfer, cynaliadwyedd eu busnes, ac yn gwella deilliannau i blant yn eu gofal.   

Bydd y cwestiynau Cyffredin isod yn eich cefnogi â’ch cais.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Aelodau Coram PACEY sy’n ymuno â neu’n adnewyddu’r mathau canlynol o aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.

  • Aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr +
  • Aelodau Cynorthwyydd Ymarferydd (hy cynorthwywyr gwarchodwr plant a gweithwyr meithrinfa)
  • Aelodau Rheolwr neu Rheolwr +
Pwy nad ydynt yn gallu ymgeisio?

Nid yw’r canlynol yn gymwys:

  • Ymarferwr Nani neu aelodau Ymarferwr + nad ydynt ar gynllun cymeradwyo AGC
  • Aelodau Dysgwyr Coram PACEY
  • Aelodau Partner Ansawdd
Rwyf wedi gwneud cais ar wahan am y cynllun 'grant i blant' gan Coram PACEY Cymru yng Nghymru, a allaf wneud cais am hwn hefyd?

Gallwch, gallwch wneud cais am y ddau grant a byddai’n bosibl bod yn llwyddiannus o dan y ddau gynllun.

Ydy'r grantiau hyn ar gael i aelodau Coram PACEY yn Lloegr?

Nac ydynt, mae cyllid grant ar gyfer aelodau Coram PACEY yng Nghymru yn unig.   

Pryd galla i ymgeisio

Os byddwch yn adnewyddu neu’n ymuno â Coram PACEY rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, gallwch wneud cais am y cyllid hwn a chwblhau’r ffurflen cais am grant.       

Bydd y ffenestr grantiau yn agor ar 12 Ionawr ac yn cau ar 12 Chwefror.  

Faint alla i wneud cais amdano?

Gall aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Gwarchodwr Plant wneud cais am hyd at £350 yr un. 

Gall aelodau Rheolwr/Rheolwr + wneud cais am hyd at £150 yr un fesul aelodaeth. 

Gall aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Nani sydd ar gynllun cymeradwyaeth AGC wneud cais am hyd at £150 

Gall aelodau Cynorthwyydd Ymarferydd (hy cynorthwywyr gwarchodwr plant a gweithwyr meithrinfa) wneud cais am hyd at £150 

Beth ellir defnyddio’r grant ar ei gyfer?

Ffocws y grant hwn yw cefnogi cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus i aelodau sy’n cefnogi eu hymarfer, cynaliadwyedd busnes, ac yn gwella deilliannau i blant yn eu gofal. Mae’r grant hwn i gefnogi costau datblygiad proffesiynol parhaus/hyfforddiant nad yw’n cael ei ddarparu/ariannu o fewn ardal awdurdod lleol neu sydd ar gael am ddim trwy bartneriaid neu gynlluniau eraill. Mae angen i ni sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu o gyllid sydd ar gael o ffynonellau eraill.  

Bydd angen i chi ddangos ar eich cais yr angen clir am ac effaith y DPP/hyfforddiant rydych chi’n ceisio cyllid ar ei gyfer. Bydd angen i chi sicrhau hefyd bod y DPP/hyfforddiant rydych chi’n gwneud cais amdano yn addas i’r rhai sy’n gweithio yng Nghymru.  

Ystyrir grantiau ar gyfer DPP/hyfforddiant sy’n cefnogi’r meysydd blaenoriaeth canlynol:  

  • Datblygu busnes  
  • Ymarfer eco/amgylcheddol  
  • Ymarfer gwrth-hiliol 
  • Diogelwch a chydymffurfiaeth  
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth  
  • TG (gan gynnwys sgiliau digidol, seibrddiogelwch a defnydd AI)  
  • Datblygiad plant  
  • Lles  
  • Cefnogi plant gydag ADY  
  • Datblygu’r Gymraeg  

Rydym yn hapus i gael sgyrsiau anffurfiol gydag aelodau i drafod cynigion i’w cynnwys mewn ceisiadau cyn eu cyflwyno.

Beth na ellir ei ariannu?

Ni ddylai’r cais ddyblygu unrhyw gyllid neu incwm arall y mae’r gwasanaeth yn ei dderbyn neu y gall gael mynediad iddo. Ystyrir pob cais ar sail unigol, fodd bynnag ni fydd costau sy’n ymwneud â’r canlynol yn cael eu hariannu: 

  • Costau hyfforddiant diogelu lle mae darpariaeth leol addas wedi’i hariannu’n llawn ar gael.  
  • Costau hyfforddiant cymorth cyntaf lle mae darpariaeth leol wedi’i hariannu’n llawn ar gael.  
  • Costau hyfforddiant hylendid bwyd lle mae darpariaeth leol wedi’i hariannu’n llawn ar gael. 
  • IHC/PCP  
Dydw i ddim yn nani cymeradwy, a allaf wneud cais o hyd?

Na allwch, dim ond aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Nani sydd ar gynllun cymeradwyaeth AGC all wneud cais.   

Dydw i ddim yn aelod Coram PACEY ar hyn o bryd, alla i wneud cais?

Dim ond i aelodau Coram PACEY y mae’r grant ar gael. 

Gweler ein pecynnau Aelodaeth Coram PACEY i ymuno â Coram PACEY a bod yn gymwys i wneud cais am y grant.  Mae Coram PACEY Cymru yn falch o gyhoeddi, trwy rodd hael gan The Moondance Foundation a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ein bod yn gallu darparu gostyngiad ar aelodaeth a ariennir ar gyfer aelodau cymwys yng Nghymru rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026

Sut ydw i’n gwneud cais?

Os byddwch yn adnewyddu neu’n ymuno â Coram PACEY rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, gallwch wneud cais am y cyllid hwn a chwblhau’r ffurflen cais am grant.      

Bydd y ffenestr grantiau yn agor ar 12 Ionawr ac yn cau ar 12 Chwefror. 

Darllenwch y datganiad a thelerau ac amodau grant yn ofalus a sicrhewch eich bod wedi cwblhau pob adran o’r ffurflen gan ddarparu gwybodaeth, fanylion fesul eitem, a chostau clir. 

Rhaid derbyn y cais am grant erbyn 12 Chwefror 2026. I’r rhai sydd i fod i adnewyddu eu haelodaeth ar ôl y cyfnod ymgeisio, rydym yn gwahodd ceisiadau ymlaen llaw a fydd yn cael eu prosesu ac os byddant yn llwyddiannus byddant yn cael eu talu ar ôl i adnewyddu’r aelodaeth gael ei gadarnhau. 

Peidiwch â mynd i unrhyw gostau nes bod eich cais wedi’i gytuno. 

Os cewch wybod bod eich cais yn llwyddiannus, bydd angen talu unrhyw gostau cytunedig ar gyfer costau DPP/hyfforddiant (gyda’r derbynebau perthnasol wedi’u cadw) erbyn diwedd mis Mawrth.   

 

Sut bydd fy nghais yn cael ei brosesu?

Ar dderbyn eich cais bydd Coram PACEY Cymru yn gwirio ei fod yn gyflawn ac yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cytunwyd arnynt. 

Bydd ceisiadau’n cael eu prosesu drwy banel grantiau Coram PACEY Cymru a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad erbyn diwedd mis Chwefror. Sylwer na fyddwn yn gallu cymeradwyo pob grant a dderbynnir a bydd llwyddiant yn dibynnu ar gryfder ceisiadau unigol. 

Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd Coram PACEY Cymru yn cadarnhau drwy e-bost. 

Ar y cam hwn bydd angen i chi gadarnhau derbyniad o’r grant drwy e-bost a darparu’ch manylion banc er mwyn derbyn y cyllid. 

Peidiwch â mynd i unrhyw gostau nes bod eich cais wedi’i gytuno gan na fydd y rhain yn cael eu derbyn.  

Os cewch wybod bod eich cais yn llwyddiannus, bydd angen talu unrhyw gostau cytunedig ar gyfer costau DPP/hyfforddiant (gyda’r derbynebau perthnasol wedi’u cadw) erbyn diwedd mis Mawrth.      

Os oes angen i chi wneud newidiadau yn dilyn y gymeradwyaeth, cysylltwch â Coram PACEY Cymru cyn gynted â phosib i drafod. 

Sut a pryd bydda i’n cael fy nhalu?

Unwaith y bydd eich grant wedi’i gymeradwyo a derbyniad y grant wedi’i dderbyn, bydd Coram PACEY Cymru yn gwneud taliad BACS o fewn 28 diwrnod i’r manylion cyfrif banc a ddarparwyd yn eich e-bost derbyn. 

Pa fath o fonitro a gwerthuso bydd yn digwydd?

Bydd angen i chi gadw’ch holl dderbynebau yn unol â’ch cais grant. 

Ni fydd Coram PACEY Cymru yn gofyn am ddychwelyd y rhain fel tystiolaeth fel mater o drefn.  Fodd bynnag rhaid cadw pob derbynneb er mwyn i Coram PACEY Cymru wneud gwiriadau at ddibenion archwilio yn ôl yr angen ac mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi i ddarparu’r rhain. 

Gallai Coram PACEY Cymru gysylltu â chi i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu astudiaethau achos a thystiolaeth ynghylch y defnydd o gyllid a sut mae hyn wedi bod o fudd i’ch gwasanaeth a’r plant yn eich gofal. 

Telerau ac Amodau

Gobeithiwn ein bod wedi ateb eich ymholiadau drwy’r Cwestiynau Cyffredin hyn, fodd bynnag, os hoffech drafod ymhellach, cysylltwch â ni::

E-bost: cymru@corampacey.org.uk

Ffôn: 02920 351407

Latest News

Keep up to date with everything that's happening in the childcare sector

Socials

Get your daily does of all that's going on in the childcare and early years sector