Development grant in Wales/Grant datblygu yng NghymruÂ
- Coram PACEY
- $
- Get Involved
- $
- PACEY in Wales
- $
- Grant datblygu yng Nghymru
Grant datblygu yng NghymruÂ
Gyda diolch i rodd gan Moondance a chyllid Llywodraeth Cymru, bydd gwarchodwyr plant, cynorthwyydd gwarchodwyr plant, nani cymeradwy, gweithiwr meithrinfa neu reolwyr meithrinfa yng Nghymru sy’n sy’n ymuno â Coram PACEY neu’n adnewyddu eu haelodaeth rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 yn cael cyfle i wneud cais am grant i gefnogi cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)/hyfforddiant yn ogystal â’r cynllun grantiau bach ehangach a gynigir.Â
Mae Coram PACEY Cymru hefyd yn cynnig gostyngiad ar aelodaeth i aelodau cymwys yng Nghymru o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026. Â
Ar gyfer gwarchodwyr plant sy’n aelodau, bydd hyn yn werth hyd at £350.Â
Ar gyfer aelodau nani gwarchodwyr plant, cynorthwyydd gwarchodwyr plant, a gweithiwr meithrinfa a rheolwyr bydd hyn yn werth at £150
Gwybodaeth grant
Nod y grant yw cefnogi aelodau Coram PACEY cymwys â chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus/hyfforddiant sy’n cefnogi eu hymarfer, cynaliadwyedd eu busnes, ac yn gwella deilliannau i blant yn eu gofal. Â
Bydd y cwestiynau Cyffredin isod yn eich cefnogi â’ch cais.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Aelodau Coram PACEY sy’n ymuno â neu’n adnewyddu’r mathau canlynol o aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
- Aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr +
- Aelodau Cynorthwyydd Ymarferydd (hy cynorthwywyr gwarchodwr plant a gweithwyr meithrinfa)
- Aelodau Rheolwr neu Rheolwr +
Pwy nad ydynt yn gallu ymgeisio?
Nid yw’r canlynol yn gymwys:
- Ymarferwr Nani neu aelodau Ymarferwr + nad ydynt ar gynllun cymeradwyo AGC
- Aelodau Dysgwyr Coram PACEY
- Aelodau Partner Ansawdd
Rwyf wedi gwneud cais ar wahan am y cynllun 'grant i blant' gan Coram PACEY Cymru yng Nghymru, a allaf wneud cais am hwn hefyd?
Gallwch, gallwch wneud cais am y ddau grant a byddai’n bosibl bod yn llwyddiannus o dan y ddau gynllun.
Ydy'r grantiau hyn ar gael i aelodau Coram PACEY yn Lloegr?
Nac ydynt, mae cyllid grant ar gyfer aelodau Coram PACEY yng Nghymru yn unig. Â
Pryd galla i ymgeisio
Os byddwch yn adnewyddu neu’n ymuno â Coram PACEY rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, gallwch wneud cais am y cyllid hwn a chwblhau’r ffurflen cais am grant.      Â
Bydd y ffenestr grantiau yn agor ar 12 Ionawr ac yn cau ar 12 Chwefror. Â
Faint alla i wneud cais amdano?
Gall aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Gwarchodwr Plant wneud cais am hyd at £350 yr un.Â
Gall aelodau Rheolwr/Rheolwr + wneud cais am hyd at £150 yr un fesul aelodaeth.Â
Gall aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Nani sydd ar gynllun cymeradwyaeth AGC wneud cais am hyd at £150Â
Gall aelodau Cynorthwyydd Ymarferydd (hy cynorthwywyr gwarchodwr plant a gweithwyr meithrinfa) wneud cais am hyd at £150Â
Beth ellir defnyddio’r grant ar ei gyfer?
Ffocws y grant hwn yw cefnogi cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus i aelodau sy’n cefnogi eu hymarfer, cynaliadwyedd busnes, ac yn gwella deilliannau i blant yn eu gofal. Mae’r grant hwn i gefnogi costau datblygiad proffesiynol parhaus/hyfforddiant nad yw’n cael ei ddarparu/ariannu o fewn ardal awdurdod lleol neu sydd ar gael am ddim trwy bartneriaid neu gynlluniau eraill. Mae angen i ni sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu o gyllid sydd ar gael o ffynonellau eraill. Â
Bydd angen i chi ddangos ar eich cais yr angen clir am ac effaith y DPP/hyfforddiant rydych chi’n ceisio cyllid ar ei gyfer. Bydd angen i chi sicrhau hefyd bod y DPP/hyfforddiant rydych chi’n gwneud cais amdano yn addas i’r rhai sy’n gweithio yng Nghymru. Â
Ystyrir grantiau ar gyfer DPP/hyfforddiant sy’n cefnogi’r meysydd blaenoriaeth canlynol:Â Â
- Datblygu busnes Â
- Ymarfer eco/amgylcheddol Â
- Ymarfer gwrth-hiliolÂ
- Diogelwch a chydymffurfiaeth Â
- Arweinyddiaeth a rheolaeth Â
- TG (gan gynnwys sgiliau digidol, seibrddiogelwch a defnydd AI)Â Â
- Datblygiad plant Â
- Lles Â
- Cefnogi plant gydag ADYÂ Â
- Datblygu’r Gymraeg Â
Rydym yn hapus i gael sgyrsiau anffurfiol gydag aelodau i drafod cynigion i’w cynnwys mewn ceisiadau cyn eu cyflwyno.
Beth na ellir ei ariannu?
Ni ddylai’r cais ddyblygu unrhyw gyllid neu incwm arall y mae’r gwasanaeth yn ei dderbyn neu y gall gael mynediad iddo. Ystyrir pob cais ar sail unigol, fodd bynnag ni fydd costau sy’n ymwneud â’r canlynol yn cael eu hariannu:Â
- Costau hyfforddiant diogelu lle mae darpariaeth leol addas wedi’i hariannu’n llawn ar gael. Â
- Costau hyfforddiant cymorth cyntaf lle mae darpariaeth leol wedi’i hariannu’n llawn ar gael. Â
- Costau hyfforddiant hylendid bwyd lle mae darpariaeth leol wedi’i hariannu’n llawn ar gael.Â
- IHC/PCP Â
Dydw i ddim yn nani cymeradwy, a allaf wneud cais o hyd?
Na allwch, dim ond aelodau Ymarferwr neu Ymarferwr + Nani sydd ar gynllun cymeradwyaeth AGC all wneud cais. Â
Dydw i ddim yn aelod Coram PACEY ar hyn o bryd, alla i wneud cais?
Dim ond i aelodau Coram PACEY y mae’r grant ar gael.Â
Gweler ein pecynnau Aelodaeth Coram PACEY i ymuno â Coram PACEY a bod yn gymwys i wneud cais am y grant. Mae Coram PACEY Cymru yn falch o gyhoeddi, trwy rodd hael gan The Moondance Foundation a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ein bod yn gallu darparu gostyngiad ar aelodaeth a ariennir ar gyfer aelodau cymwys yng Nghymru rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026
Sut ydw i’n gwneud cais?
Os byddwch yn adnewyddu neu’n ymuno â Coram PACEY rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, gallwch wneud cais am y cyllid hwn a chwblhau’r ffurflen cais am grant.     Â
Bydd y ffenestr grantiau yn agor ar 12 Ionawr ac yn cau ar 12 Chwefror.Â
Darllenwch y datganiad a thelerau ac amodau grant yn ofalus a sicrhewch eich bod wedi cwblhau pob adran o’r ffurflen gan ddarparu gwybodaeth, fanylion fesul eitem, a chostau clir.Â
Rhaid derbyn y cais am grant erbyn 12 Chwefror 2026. I’r rhai sydd i fod i adnewyddu eu haelodaeth ar ôl y cyfnod ymgeisio, rydym yn gwahodd ceisiadau ymlaen llaw a fydd yn cael eu prosesu ac os byddant yn llwyddiannus byddant yn cael eu talu ar ôl i adnewyddu’r aelodaeth gael ei gadarnhau.Â
Peidiwch â mynd i unrhyw gostau nes bod eich cais wedi’i gytuno.Â
Os cewch wybod bod eich cais yn llwyddiannus, bydd angen talu unrhyw gostau cytunedig ar gyfer costau DPP/hyfforddiant (gyda’r derbynebau perthnasol wedi’u cadw) erbyn diwedd mis Mawrth. Â
Sut bydd fy nghais yn cael ei brosesu?
Ar dderbyn eich cais bydd Coram PACEY Cymru yn gwirio ei fod yn gyflawn ac yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cytunwyd arnynt.Â
Bydd ceisiadau’n cael eu prosesu drwy banel grantiau Coram PACEY Cymru a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad erbyn diwedd mis Chwefror. Sylwer na fyddwn yn gallu cymeradwyo pob grant a dderbynnir a bydd llwyddiant yn dibynnu ar gryfder ceisiadau unigol.Â
Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd Coram PACEY Cymru yn cadarnhau drwy e-bost.Â
Ar y cam hwn bydd angen i chi gadarnhau derbyniad o’r grant drwy e-bost a darparu’ch manylion banc er mwyn derbyn y cyllid.Â
Peidiwch â mynd i unrhyw gostau nes bod eich cais wedi’i gytuno gan na fydd y rhain yn cael eu derbyn. Â
Os cewch wybod bod eich cais yn llwyddiannus, bydd angen talu unrhyw gostau cytunedig ar gyfer costau DPP/hyfforddiant (gyda’r derbynebau perthnasol wedi’u cadw) erbyn diwedd mis Mawrth.    Â
Os oes angen i chi wneud newidiadau yn dilyn y gymeradwyaeth, cysylltwch â Coram PACEY Cymru cyn gynted â phosib i drafod.Â
Sut a pryd bydda i’n cael fy nhalu?
Unwaith y bydd eich grant wedi’i gymeradwyo a derbyniad y grant wedi’i dderbyn, bydd Coram PACEY Cymru yn gwneud taliad BACS o fewn 28 diwrnod i’r manylion cyfrif banc a ddarparwyd yn eich e-bost derbyn.Â
Pa fath o fonitro a gwerthuso bydd yn digwydd?
Bydd angen i chi gadw’ch holl dderbynebau yn unol â’ch cais grant.Â
Ni fydd Coram PACEY Cymru yn gofyn am ddychwelyd y rhain fel tystiolaeth fel mater o drefn. Fodd bynnag rhaid cadw pob derbynneb er mwyn i Coram PACEY Cymru wneud gwiriadau at ddibenion archwilio yn ôl yr angen ac mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi i ddarparu’r rhain.Â
Gallai Coram PACEY Cymru gysylltu â chi i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu astudiaethau achos a thystiolaeth ynghylch y defnydd o gyllid a sut mae hyn wedi bod o fudd i’ch gwasanaeth a’r plant yn eich gofal.Â
Gobeithiwn ein bod wedi ateb eich ymholiadau drwy’r Cwestiynau Cyffredin hyn, fodd bynnag, os hoffech drafod ymhellach, cysylltwch â ni::
E-bost: cymru@corampacey.org.uk
Ffôn: 02920 351407
Latest News
Keep up to date with everything that's happening in the childcare sector
