Care services across Wales are delivering higher standards of care, according to the Chief Inspector's Annual Report for 2024-2025. The report shows how targeted inspection and enforcement is supporting measurable improvements whilst highlighting ongoing sector challenges.
Key points:
• Effective inspection drives quality improvements. The majority of inspection ratings awarded during 2024-25 ‘good’ or ‘excellent’- 80% in childcare and play services
• Priority Action Notices down 41% to 373 as fewer services require enforcement intervention
• CIW brought forward 239 inspections following concerns from families and staff
• Workforce shortages and financial pressures remain sector challenges.
The report states:
While ten more child minders registered this year than in 2023/2024, 147 cancelled, continuing the decline in childminders in Wales. There are 999 less childminders now than ten years ago. Common reasons given for childminders cancelling registration were change of career and retirement. CIW have continued to engage with childminders who voluntarily suspended their service for some time, including those who indicated they have other employment. In many cases this has led them to cancel their registration altogether. Whilst this will have contributed to the fall in the number of childminders, it also provides a more accurate picture of the available childminding places across Wales. There are some positive signs as childminders have more optimism about their financial sustainability than in recent years.
"This annual report shows real progress in care quality across Wales," said Gillian Baranski, Chief Inspector at CIW. "However, we remain clear-eyed about ongoing challenges. Workforce shortages, financial pressures and rising demand continue to test service resilience. That so many services deliver high-quality care in this context is a testament to the dedication of the workforce and the strength of the care sector."
Claire Protheroe, Head of Contracts and Projects at PACEY Cymru said:
"PACEY Cymru welcome the publication of the annual report with the positivity this includes about the quality of the majority of childcare and play services in Wales. We echo CIW’s concerns around the continuing decline in childminders and continue to work closely with Welsh Government, CIW, Local Authorities and other partners to take forward actions to support work to address this. While there has been some progress to date linked to the Independent Review of Childminding published in 2023, PACEY Cymru believe stronger activity is needed to ensure this has a positive impact on the decline. We believe additional funding and significant investment is needed and have shared our concerns with the Minister and Welsh Government officials."
Download the report
Mae gwasanaethau gofal ledled Cymru yn darparu safonau gofal uwch, yn ôl Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd ar gyfer 2024-2025. Mae'r adroddiad yn dangos sut mae arolygiadau a chamau gorfodi wedi'u targedu yn cefnogi gwelliannau mesuradwy, gan dynnu sylw at heriau parhaus y sector ar yr un pryd.
Pwyntiau allweddol:
• Mae arolygu effeithiol yn ysgogi gwelliannau ansawdd: Graddau ‘da’ neu ‘rhagorol’ oedd y rhan fwyaf o’r graddau arolygu a roddwyd yn ystod 2024-25-80% ym maes gwasanaethau gofal plant a chwarae
• Mae'r Hysbysiadau Gweithredu â Blaenoriaeth i lawr 41% i 373 gan fod angen ymyriad gorfodi ar nifer llai o wasanaethau
• Cynhaliodd AGC 239 o arolygiadau yn gynnar yn dilyn pryderon gan deuluoedd a staff
• Mae prinder gweithlu a phwysau ariannol yn parhau i fod yn heriau i'r sector
Mae'r adroddiad yn datgan:
Er i ddeg yn fwy o warchodwyr plant gofrestru’r flwyddyn hon o gymharu â 2023/24, cafodd 147 o wasanaethau eu canslo, gan barhau â’r gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant yng Nghymru. Mae 999 yn llai o warchodwyr plant nawr o gymharu â deg mlynedd yn ôl. Y rhesymau cyffredin a roddwyd dros y ffaith bod gwarchodwyr plant yn canslo eu cofrestriad oedd newid gyrfa ac ymddeoliad. Rydym wedi parhau i ymgysylltu â gwarchodwyr plant sy’n atal eu gwasanaeth dros dro yn wirfoddol am beth amser, gan gynnwys y rhai a nododd fod ganddynt gyflogaeth arall. Mewn sawl achos, mae hyn wedi arwain at ganslo’r cofrestriad yn llwyr. Er y bydd hyn wedi cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant, mae hefyd yn rhoi darlun mwy cywir o’r lleoedd gwarchodwyr plant sydd ar gael ledled Cymru. Mae rhai arwyddion cadarnhaol gan fod gwarchodwyr plant yn fwy optimistaidd ynghylch eu sefydlogrwydd ariannol o gymharu â blynyddoedd diweddar.
“Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn dangos cynnydd gwirioneddol mewn ansawdd gofal ledled Cymru,” dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd AGC. “Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn glir ynghylch yr heriau sy'n parhau. Mae'r prinder gweithlu, pwysau ariannol a'r cynnydd mewn galw yn parhau i brofi cadernid y gwasanaeth. Mae'r ffaith bod cymaint o wasanaethau'n darparu gofal o ansawdd uchel yn y cyd-destun hwn yn destament i ymroddiad y gweithlu a chryfder y sector gofal.”
Dywedodd Claire Protheroe, Pennaeth Contractau a Phrosiectau
"Mae PACEY Cymru yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad blynyddol gyda’r positifrwydd y mae hwn yn ei gynnwys am ansawdd y mwyafrif o wasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru. Rydym yn adleisio pryderon AGC ynghylch y gostyngiad parhaus mewn gwarchodwyr plant ac yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, AGC, Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill i gymryd camau gweithredu i gefnogi gwaith i fynd i’r afael â hyn. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud hyd yma yn gysylltiedig â'r Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant a gyhoeddwyd yn 2023, mae PACEY Cymru yn credu bod angen gweithgarwch cryfach i sicrhau bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y dirywiad. Credwn fod angen cyllid ychwanegol a buddsoddiad sylweddol ac rydym wedi rhannu ein pryderon â’r Gweinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru."
Lawrlwythwch yr adroddiad