CIW are holding two quality conference events for 2025. You only need to attend one session.
This conference is designed specifically for childcare and play providers focusing on the quality of services and support that matters most to your setting and the children in your care.
What to expect
- Positive practice from across the sector – Hear from providers and inspectors
- Inspection framework updates - Hear more about the latest inspection framework review
- Provider experiences - Q&A sessions with providers
- Policy updates - Information about the National Minimum Standards review from Welsh Government
- Quality meetings feedback - What CIW are learning from quality meetings and how this shapes their support
- Your voice matters - CIW will be including a snap survey asking what the sector needs support with, so come prepared to share your thoughts and experiences.
How to join
- To join the conference on 25 November (7.00pm to 8.30pm) – click here
- To join the conference on 2 December (6.00pm to 7.30pm) – click here
Important information to read before the event
Both events will be held via Microsoft Teams. For you to easily access the event we suggest you join on a laptop or desktop computer and join CIW using the Microsoft Teams app.
Some elements of the events will be presented in Welsh and simultaneous translation will be available for providers who don’t speak / understand Welsh.
Event recording
The events will be recorded and shared via CIW YouTube channel, newsletters and website. If you prefer not to be recorded, simply keep your camera off.
For full details about how CIW handle your data, please see their privacy notice.
The event was great. I’ve been to other CIW events but this one felt and looked much more ‘professional’ and was really inspiring. Thank you - and really looking forward to the next one
Mae AGC yn cynnal dwy gynhadledd ansawdd ar gyfer 2025. Dim ond un sesiwn sydd angen i chi fynychu.
Mae'r gynhadledd hon wedi'i dylunio'n benodol ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae, a bydd yn canolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau a'r cymorth sydd bwysicaf i'ch lleoliad a'r plant yn eich gofal.
Beth i'w ddisgwyl
- Ymarfer cadarnhaol o bob rhan o'r sector – Cyfle i glywed gan ddarparwyr ac arolygwyr
- Diweddariadau i'r fframwaith arolygu – Cyfle i glywed mwy am yr adolygiad diweddaraf o'r fframwaith arolygu
- Profiadau darparwyr – Sesiynau holi ac ateb â darparwyr
- Diweddariadau i bolisïau – Gwybodaeth am adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
- Adborth o gyfarfodydd ansawdd – Yr hyn rydym yn ei ddysgu o gyfarfodydd ansawdd a sut mae hyn yn llywio ein cymorth
- Mae eich llais yn bwysig – Byddwn yn cynnwys arolwg bach er mwyn gofyn pa gymorth sydd ei angen ar y sector, felly byddwch yn barod i rannu eich barn a'ch profiadau.
Sut i ymuno
- I ymuno â'r gynhadledd ar 25 Tachwedd (7.00pm tan 8.30pm) – cliciwch yma
- I ymuno â'r gynhadledd ar 2 Rhagfyr (6.00pm tan 7.30pm) – cliciwch yma
Gwybodaeth bwysig i'w darllen cyn y digwyddiad
Caiff y ddau ddigwyddiad eu cynnal drwy Microsoft Teams. Er mwyn i chi ymuno â'r digwyddiad yn hawdd, rydym yn awgrymu y dylech ymuno ar liniadur neu gyfrifiadur gan ddefnyddio'r ap Microsoft Teams.
Caiff rhai elfennau o'r digwyddiadau eu cyflwyno yn Gymraeg a bydd cyfleuster cyfieithu ar y pryd ar gael i ddarparwyr nad ydynt yn siarad / deall Cymraeg.
Cofnodi digwyddiadau
Bydd y digwyddiadau'n cael eu recordio a'u rhannu trwy sianel YouTube, cylchlythyrau a gwefan AGC. Os yw'n well gennych beidio â chael eich recordio, cadwch eich camera i ffwrdd.
Am fanylion llawn am sut mae AGC yn trin eich data, gweler ei hysbysiad preifatrwydd.
Roedd y digwyddiad yn wych. Rwyf wedi bod i ddigwyddiadau eraill gan AGC ond roedd y digwyddiad hwn yn teimlo ac yn edrych yn llawer mwy ‘proffesiynol’ ac yn ysbrydoledig iawn. Diolch – rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr un nesaf