Helpu i feithrin Lledrith Gwarchod Plant yng Nghymru
Mae gwarchodwyr plant yn gwneud cyfraniad eithriadol i blant, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Maent yn darparu gofal plant dibynadwy, hyblyg a meithringar sydd wedi’i wreiddio mewn cymunedau lleol, gan helpu plant i deimlo’n ddiogel, wedi’u cynnwys a’u cefnogi i chwarae, dysgu, perthyn a ffynnu.
Ac eto, mae’r sector gwarchod plant yng Nghymru o dan bwysau gwirioneddol. Mae nifer y gwarchodwyr plant cofrestredig wedi parhau i ostwng, tra bod yr angen sydd gan deuluoedd am ofal plant hyblyg, lleol a chynhwysol yn parhau i fod mor bwysig ag erioed. Os yw Cymru am adeiladu system gofal plant a blynyddoedd cynnar gryfach, rhaid gwerthfawrogi, cydnabod a chefnogi gwarchodwyr plant fel elfen ganolog yn y dyfodol hwnnw.
Mae Coram PACEY Cymru wedi cyhoeddi eu Strategaeth Gwarchod Plant Cymru 2026-2035, sy’n amlinellu sut y gall Coram PACEY Cymru barhau i ddatblygu ‘Lledrith Gwarchod Plant’ dros y 10 mlynedd nesaf. Wedi’i ddatblygu gan dîm Coram PACEY Cymru mewn ymgynghoriad â gwarchodwyr plant, mae’r strategaeth hon yn cadw plant, teuluoedd, gwarchodwyr plant a chymunedau wrth wraidd ein gwaith. Gan fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar gryfderau, yn canolbwyntio ar y plentyn, yn ystyried y system ehangach, yn cael ei lywio gan dystiolaeth ac yn ymarferol, mae’n nodi newid bwriadol tuag at gydnabod y gorau oll sydd gan warchodwyr plant i’w gynnig i’w cymunedau, yn hytrach nag edrych ar warchod plant yn nhermau heriau neu ddirywiad yn unig.
Yn unol â’r Strategaeth, mae Siarter Gwarchod Plant Cymru Coram PACEY Cymru yn gwahodd partneriaid, sefydliadau a llunwyr penderfyniadau i sefyll ochr yn ochr â gwarchodwyr plant ac ymrwymo i gamau ymarferol sy’n helpu gwarchod plant i ffynnu. Drwy lofnodi’r Siarter, mae partneriaid yn dangos eu cefnogaeth i Gymru lle gall plant, teuluoedd, gwarchodwyr plant a chymunedau i gyd elwa ar ‘Lledrith Gwarchod Plant’.
Pam llofnodi’r Siarter?
Mae llofnodi’r Siarter yn ymrwymiad cyhoeddus i hyrwyddo gwarchod plant fel rhan hanfodol o system gofal plant a blynyddoedd cynnar Cymru. Mae’n golygu cydnabod sgiliau, proffesiynoldeb ac effaith gwarchodwyr plant, gwrando ar eu profiadau, a chydweithio i greu’r amodau sydd eu hangen arnynt i gynnal a thyfu eu busnesau.
Mae’r Siarter yn seiliedig ar bedair uchelgais gyffredin: bod plant yn cael eu cefnogi i fod yn ddiogel ac yn iach, bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u bod yn cael eu cynnwys; bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at ofal plant dibynadwy, hyblyg a chynhwysol; bod gwarchodwyr plant yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi fel gweithwyr proffesiynol medrus; a bod cymunedau’n cydweithio fel bod cymorth lleol yn gydgysylltiedig, yn gynhwysol ac yn ymatebol.
Drwy lofnodi Siarter Gwarchod Plant Cymru, mae llofnodwyr yn ymrwymo i’r canlynol:

