Welsh Government have published a Written Statement along with the Early Childhood Play, Learning and Care (ECPLC): Assessment Arrangements for 0-3-year-olds in Wales.
This resource is designed to support practitioners in delivering high-quality ECPLC in Wales.
The ECPLC: Assessment Arrangements for 0-3-year-olds in Wales aims to nurture the development, learning, and well-being of all babies and young children from birth to age three. It values each baby and young child’s unique identity, background, and experiences, encouraging practitioners to adopt a holistic and responsive approach to development, learning, and care.
Welsh Government have expressed their thanks to everyone involved in the development of the resource, which has been created by practitioners for practitioners.
This resource will remain in draft form for the next year as they engage with a wide range of practitioners. Welsh Government plan to publish the final versions in September 2026.
How can I use this guidance?
This guidance document aligns with the National Minimum Standards for Regulated Childcare in Wales, Flying Start provision and the Curriculum for Wales.
This resource should be used alongside other ECPLC resources to assist practitioners with their assessments and observations, ensuring they are responsive to the developing needs and interests of babies and young children.
The guidance is set out in 4 sections:
- Section 1: Assessment
- Section 2: Observation
- Section 3: Starting with us
- Section 4: Areas of Assessment
Sections 1 to 3 are presented in a question-and-answer format. Through addressing common questions directly, this guidance aims to be accessible, easy to navigate and practitioner focused. This format supports you to locate clear and useful information quickly.
Section 4 provides practical examples of how you can observe and assess babies and young children’s progress across the key developmental areas. These examples are designed to support you in recognising and responding to each baby and young child’s unique development and learning journey through play and everyday routines.
Together, these resources help provide a clear, coherent framework for supporting high-quality early years practice across Wales.
If you have further queries please email paceycymru@pacey.org.uk
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ynghyd â’r Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar Trefniadau Asesu ar gyfer plant 0-3 oed yng Nghymru.
Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i gefnogi ymarferwyr i ddarparu Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar o ansawdd uchel yng Nghymru.
Nod Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar Trefniadau Asesu ar gyfer plant 0-3 oed yng Nghymru yw meithrin datblygiad, dysgu a lles yr holl fabanod a phlant ifanc o'u geni i dair oed. Mae'n gwerthfawrogi hunaniaeth, cefndir a phrofiadau unigryw pob babi a phlentyn ifanc, gan annog ymarferwyr i fabwysiadu dull cyfannol ac ymatebol o ddatblygiad, dysgu a gofal.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ein diolch o'r galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu'r adnodd hwn, a grëwyd gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr.
Bydd yr adnodd hwn yn parhau ar ffurf ddrafft am y flwyddyn nesaf wrth iddynt ymgysylltu ag ystod eang o ymarferwyr. Mae Llywodraeth Cymru
yn bwriadu cyhoeddi'r fersiynau terfynol ym mis Medi 2026.
Sut alla i ddefnyddio'r canllaw hwn?
Mae'r ddogfen ganllaw hon yn cyd-fynd â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru, darpariaeth Dechrau'n Deg a Cwricwlwm i Gymru.
Dylid defnyddio'r adnodd hwn ochr yn ochr ag Adnoddau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar eraill i gynorthwyo ymarferwyr gyda'u hasesiadau a'u harsylwadau, gan sicrhau eu bod yn ymateb i anghenion a diddordebau babanod a phlant ifanc sy'n datblygu.
Mae pedair rhan i’r canllawiau hyn:
- Adran 1: Asesu
- Adran 2: Arsylwi
- Adran 3: Dechrau gyda ni
- Adran 4: Meysydd asesu
Mae Adrannau 1 i 3 wedi’u cyflwyno mewn fformat holi ac ateb. Drwy fynd i’r afael â chwestiynau cyffredin yn uniongyrchol, nod y canllawiau hyn yw bod yn hygyrch, yn hawdd eu defnyddio a chanolbwyntio ar ymarferwyr. Mae’r fformat hwn yn ein helpu i ddod o hyd i wybodaeth glir a defnyddiol yn gyflym.
Mae Adran 4 yn rhoi enghreifftiau ymarferol o sut y gallwch arsylwi ar gynnydd babanod a phlant bach a’u hasesu ar draws y meysydd datblygu allweddol. Mae’r enghreifftiau hyn wedi’u dylunio i’ch cefnogi i nodi ac ymateb i ddatblygiad a thaith dysgu unigryw pob babi a phlentyn bach drwy chwarae ac arferion pob dydd.
Gyda’i gilydd, mae’r adnoddau hyn yn helpu i ddarparu fframwaith clir a chydlynol ar gyfer cefnogi ymarfer blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel ledled Cymru.
Os oes gennych ymholiadau pellach ar ôl darllen y rhain, anfonwch e-bost at paceycymru@pacey.org.uk